Logoja YouVersion
Ikona e kërkimit

Versionet e Biblës

Detholiad o’r Salmau 1936 (Lewis Valentine)

Welsh, Galés

Lewis Valentine

Ganed Lewis Edward Valentine yn Llanddulas, Conwy ym 1893. Yn 1925 priododd â Margaret Jones. Roedd yn weinidog gydaʼr Bedyddwyr ac yn olygydd Seren Gomer am bron chwarter canrif, o 1951 to 1975. Roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru, yn llywydd cyntaf y Blaid aʼi hymgeisydd seneddol cyntaf yn etholiad 1928. Ym 1936, roedd yn un oʼr tri wnaeth hawlio cyfrifoldeb am losgi ysgol fomio’r RAF yn Penyberth, ar Benrhyn Llyn, Sir Gaernarfon. Cafodd o, ynghŷd â Saunders Lewis a D.J.Williams eu dedfrydu gan yr Old Bailey i 9 mis o garchar yn Wormwood Scrubs. Bu farw yn 92 oed ym Mae Colwyn ym 1986.

Detholiad oʼr Salmau

Tra bu Lewis Valentine yn weinidog yng nghapel y Bedyddwyr, Tabernacl Llanduduno, cyfieithodd ddetholiad o 36 salm. Cyflwynodd y gyfrol er cof am ei rieni. Mae cyflwyniad 15 tudalen (Rhagarweiniad) am y salmau. Cyfieithodd 41 salm: rhifau 1, 2, 8; 15, 16, 19; 23, 27; 32, 34; 40, 42-43, 46, 48; 50, 51; 62, 65; 72, 73; 80, 84, 87; 90, 91; 100, 102, 103, 104; 110, 116; 121, 122, 125, 126; 130, 132, 139; 145, 147. Ar ddiwedd y llyfr mae nodiadau ar bob un oʼr salm, ynghŷd â rhai cwestiynau a phynciau iʼw trafod. Feʼi cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936, aʼi argraffu dan y teitl Detholiad oʼr Salmau, gan J. D. Lewis aʼi Feibion, Gwasg Gomer, Llandysul.

Argraffiad Digidol

Cafodd Detholiad oʼr Salmau ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2021. Mae'r prosiect hwn hefyd yn cynnwys ei gyfieithiad o Y Wraig Rinweddol yn Diarhebion 31, a roddodd fel rhan o anerchiad yn angladd mam yr awdures Kate Roberts ym 1944. Fe'u cyhoeddir ar-lein gyda chaniatâd ei deulu.

English: 

Lewis Valentine

Lewis Edward Valentine was born in Llanddulas, Conwy in 1893. In 1925 he married Margaret Jones. He was a Baptist minister and editor of the Baptist paper, Seren Gomer, for nearly a quater of a century, from 1951 to 1975. He was one of the founders of Plaid Cymru, the partyʼs first president and its first parliamentary candidate in the 1928 election. In 1936, he was one of the three that claimed responsibility for burning the RAF bombing school in Penyberth, on the Llŷn Peninsula in Caernarfonshire. He, together with Saunders Lewis and D.J.Williams were sentenced by the Old Bailey to 9 months imprisonment at Wormwood Scrubs. He died aged 92 in Colwyn Bay in 1986.

Detholiad oʼr Salmau

Whilst Lewis Valentine served as Baptist pastor at the Tabernacl Welsh Baptist chapel in Llanduduno. The publication was dedicated in memory of his parents. There is a 15 page introduction (Rhagarweiniad) about the psalms. He translated 41 psalms: numbers 1, 2, 8; 15, 16, 19; 23, 27; 32, 34; 40, 42-43, 46, 48; 50, 51; 62, 65; 72, 73; 80, 84, 87; 90, 91; 100, 102, 103, 104; 110, 116; 121, 122, 125, 126; 130, 132, 139; 145, 147. At the end of the book is a section of notes (Nodiadau) about each of these psalms, followed by some questions and subjects for discussion (Pynciau iʼw Trafod). They were published by Gwasg Ilston in April 1936, and printed under the title Detholiad oʼr Salmau (A Selection of the Psalms) by J. D. Lewis and Sons, Gwasg Gomer, Llandysul.

Digital Edition

Detholiad oʼr Salmau was digitised for the Bible Society in 2021. This project also includes his translation of the Virtuous Bride from Proverbs 31, which he gave as part of an address at the funeral for the mother of the authoress Kate Roberts in 1944. They are published online with the permission of his family. 


British & Foreign Bible Society

SLV PUBLIKUESI

Mëso më shumë

Versione të tjera nga British & Foreign Bible Society