1
Salmau 8:3-4
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Pan welaf waith dy fysedd Wrth edrych tua’r ne’: Yr haul a’r sêr a’r lleuad, A roddaist yn eu lle, “Pwy ydwyf fi,” gofynnaf, “A phwy yw dynol ryw, I ti ofalu amdanom, A’n cofio, f’Arglwydd Dduw?”
Krahaso
Eksploroni Salmau 8:3-4
2
3
Salmau 8:5-6-5-6
Ac eto, ti a’n gwnaethost Ychydig bach islaw Y duwiau; rhoist awdurdod I ni dros waith dy law. Coronaist ni â mawredd, A gosod dan ein traed, Er ein mwynhad a’n defnydd Y cyfan oll a wnaed
Eksploroni Salmau 8:5-6-5-6
4
Salmau 8:7-9
Yr ychen yn y meysydd, Y defaid oll a’r myllt, A’r anifeiliaid rheibus, Y pysg a’r adar gwyllt, A phopeth sy’n tramwyo Trwy’r dyfroedd oll i gyd, O Arglwydd, mor ardderchog Dy enw drwy’r holl fyd.
Eksploroni Salmau 8:7-9
5
Salmau 8:1-2
O Arglwydd, mor ardderchog Dy enw drwy’r holl fyd. Gosodaist dy ogoniant Goruwch y nef i gyd. Ond codaist fawl babanod, Plant sugno bychain, gwan, I’th warchod rhag d’elynion A’u trechu yn y man.
Eksploroni Salmau 8:1-2
Kreu
Bibla
Plane
Video