Mathew 7:7-12

Mathew 7:7-12 DAFIS

“Gofinnwch a geith e i roi i chi; whiliwch a fe ffeindwch chi; cnocwch a geith i drws i agor ichi. Achos bydd bob un syn gofyn in câl, bydd i sawl sy'n whilio in ffeindo, a bydd ir un sy'n cnoco in gweld i drws in agor iddo. Wes un o'chi fise'n rhoi carreg i'w grwt a hwnnw wedi holi am gâl bara? Neu a roiech chi neidir iddo fe os bise fe'n pofyn am bisgodyn? Os ych chi, sy'n bobol ddrwg, in gwbod shwt i roi pethe da i'ch plant, faint in fwy bydd 'ich Tad in i nefodd in rhoi pethe da i'r rhei sy'n gofyn wrtho fe! “Beth binnag ych chi moyn i ddinion neud i chi, newch chi iddyn nhw 'fyd; achos tina beth yw istyr i Gifreth a'r Proffwydi.

Read Mathew 7