Ti a fendithi’r cyfiawn,
O Arglwydd! yn ddiau,
Dy gariad megys tarian
Fydd iddo i barhau;
Dy olwg gedwi arno
Yn wastad, nos a dydd,
A than dy aden dawel
Diogel iawn a fydd.
NODIADAU.
Fel llawer ereill o salmau Dafydd, gweddi yn amser trallod yw y salm hon: ond pa drallod yn ei fywyd trallodus a fu yn achlysur ei chyfansoddiad, rhy anhawdd penderfynu fe ddichon. Pa drallod bynag, a pha bryd bynag y goddiweddid ef gan drallod, i’r un man yr äi efe i ddyweyd ei gŵyn, ac i geisio ymwared; yr oedd yn wastad yn cydnabod llaw Duw yn ei drallodau a’i waredigaethau. Y mae efe yma yn dadgan ei ffydd mewn gweddi, ac yn Nuw fel gwrandawr gweddi; ac oddi ar hyny, ei benderfyniad i barhau yn yr ymarferiad o weddïo Duw. Cydnabydda gyfiawnder a sancteiddrwydd Duw, fel y mae yn casau drygioni, a gweithredwyr anwiredd — na thrig anwiredd gydag ef, na’r rhai a wnant anwiredd yn ei olwg; ac am hyny, adduneda ei foliannu ef. Gweddïa drachefn am yr arweiniad a’r nawdd dwyfol, i’w ddiogelu rhag malais a chynllwynion ei elynion; a phrophwyda eu cwymp a’u dinystr hwy; a therfyna mewn erfyniau a diolchiadau dros yr holl ffyddloniaid.