O Dduw, a’m gwaredaist i droeon
O’m blinder, clyw ’ngweddi yn awr.
Clywch chwithau, sy’n gwawdio f’anrhydedd
A charu celwyddau mor fawr:
Mae’r Arglwydd yn gwneud rhyfeddodau
I’r ffyddlon, a’i weddi a glyw.
Pa werth colli cwsg mewn dicllonedd?
Na phechwch, distewch gerbron Duw.