Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 8:23-27

Matthew Lefi 8:23-27 CJW

Yna gwedi iddo fyned i’r llong, ei ddysgyblion, á’i canlynasant ef. Yn fuan wedi, cyfododd y fath dymhestl yn y môr, nes y gorchuddiwyd y llong gàn y tònau. Ond gàn ei fod ef yn cysgu, y dysgyblion á ddaethant, ac á’i deffroisant ef, gàn ddywedyd, Achub ni Feistr, yr ydym àr ddarfod am danom, Yntau á atebodd, Paham yr ydych yn ofnog, O chwi rai anymddiriedus? Yna y cyfododd efe, a gwedi gorchymyn i’r gwyntoedd a’r môr, tawelwch mawr á ganlynodd; fel y llefodd pawb allan gyda rhyfeddod, Pa fath un yw hwn, yr hwn y mae hyd yn nod y gwyntoedd a’r môr yn ufyddâu iddo!