Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 5:33-37

Matthew Lefi 5:33-37 CJW

Drachefn, clywsoch y dywedwyd wrth yr hynafiaid, “Na thwng anudon, ond tâl dy lẅon i’r Arglwydd.” Ond yr wyf fi yn dywedyd wrthych, Na thwng ddim; nac i’r nef, canys gorsedd Duw ydyw; nac i’r ddaiar, canys ei droedfainc ydyw; na thwng chwaith i Gaersalem, canys dinas y Brenin mawr ydyw; nac i’th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wỳn neu yn ddu. Ond bydded eich ïe, yn Ië; eich nage, yn Nage; canys bethbynag sy dros ben hyn, o ddrwg y deillia.