Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 4:12-17

Matthew Lefi 4:12-17 CJW

Ac Iesu, gwedi clywed ddarfod carcharu Iöan, á giliodd i Alilëa, a gwedi gadaw Nasareth, á drigodd yn Nghapernäum, porthladd yn nghyffiniau Zabulon a Naphtali, drwy hyny yn gwireddu geiriau Isaia y Proffwyd; “Cantref Zabulon, a chantref Naphtali, yn gorwedd àr yr Iorddonen, gèr y môr, Galilëa y cenedloedd; y bobl à arosent mewn tywyllwch, á welsant oleuni mawr, ac àr y rhai à breswylient fro cysgodion angeu, y cyfododd goleuni.” O’r pryd hwnw y dechreuodd Iesu gyhoeddi, gàn ddywedyd, Diwygiwch, canys y mae Teyrnasiad y nefoedd yn agosâu.