Matthew Lefi 25:1-13

Matthew Lefi 25:1-13 CJW

Yna tebyg fydd teyrnas y nefoedd i ddeg o wyryfon, y rhai á aethant allan gyda ’u lluserni i gyfarfod â’r priodfab. A phump o honynt oedd gall, a phump yn ffol. Y rhai ffol á gymerasant eu lluserni, a ni ddygasant olew gyda hwynt. Ond y rhai call, heblaw eu lluserni, á ddygasant olew yn eu llestri. Tra yr oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll, ac yr hunasant. Ac àr hanner nos y bu gwaedd, Y mae y priodfab yn dyfod, ewch allan i gyfarfod ag ef. Yna y cyfododd yr holl wyryfon, ac y trwsiasant eu lluserni. A’r rhai ffol á ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi; canys y mae ein lluserni yn diffoddi. Ond y rhai call á atebasant, gàn ddywedyd, rhag na byddo digon i ni ac i chwithau, ewch yn hytrach at y sawl sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. Tra yr oeddynt yn myned i brynu, daeth y priodfab, a’r rhai oeddynt barod, á aethant i fewn gydag ef i’r briodas, a chauwyd y drws. Wedi hyny, daeth y gwyryfon ereill hefyd, gàn ddywedyd, Feistr, feistr, agor i ni. Yntau á atebodd, Yn wir, meddaf i chwi, Nid wyf yn eich adnabod chwi. Gwyliwch, gàn hyny, am na wyddoch na’r dydd na’r awr.