Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 16:24-28

Matthew Lefi 16:24-28 CJW

Yna y dywedodd Iesu wrth ei ddysgyblion, Os mỳn neb ddyfod dàn fy nhywysiaeth i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Canys pwybynag a fỳno gadw ei fywyd, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei fywyd èr fy mwyn i, á’i caiff. Pa lesâad i ddyn, ped ennillai efe yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? neu pa beth na ddyry dyn yn bridwerth am ei fywyd? Canys Mab y Dyn, wedi ei wisgo â gogoniant ei Dad, á ddaw àr ol hyn, gyda ’i gènadau nefol, ac á dâl i bob dyn yn ol ei weithredoedd. Yn wir, meddaf i chwi, rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma yn bresennol, ni phrofant angeu, hyd oni welont Fab y Dyn yn cychwyn ei deyrnasiad.