Matthew Lefi 11:2-6
Matthew Lefi 11:2-6 CJW
Ac Iöan, wedi clywed yn y carchar, am weithredoedd y Messia, á ddanfonodd ddau o’i ddysgyblion, y rhai á ofynasant iddo, Ai tydi yw yr hwn sydd yn dyfod, ynte á raid i ni ddysgwyl un arall? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioän, y pethau à glywsoch ac á welsoch. Gwneir i’r deillion weled, i’r cloffion gerdded; gwahangleifion á lanêir; y byddariaid á glywant, y meirw á gyfodir; a newydd da á ddygir i’r tylodion; a dedwydd yw y sawl, na byddaf yn dramgwyddfa iddo.