Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 10:6-10

Matthew Lefi 10:6-10 CJW

Nac ewch ymaith at y Cenedloedd, nac i fewn i ddinas Samariaidd; ond ewch yn uniawn at ddefaid colledig cyff Israel. Ac wrth fyned, cyhoeddwch, gàn ddywedyd, Y mae Teyrnasiad y Nefoedd yn agosâu. Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanewch y gwahangleifion, bwriwch allan gythreuliaid; yn rad y derbyniasoch, rhoddwch yn rad. Na ddodwch aur, neu arian, neu efydd, yn eich gwregysau; na chariwch ysgrepan teithio, na pheisiau dros bèn digon, esgidiau na ffon; canys y mae y gweithiwr yn deilwng o’i gynnaliaeth.