Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 10:34-39

Matthew Lefi 10:34-39 CJW

Na thybiwch fy nyfod i i ddwyn heddwch àr y ddaiar. Ni ddaethym i ddwyn heddwch, ond cleddyf. Canys daethym i beri annghydfod rhwng tad a mab, rhwng mam a merch, rhwng mam‐yn‐nghyfraith a merch-yn‐nghyfraith; fel mai gelynion gŵr á geir yn ei deulu ei hun. Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi. Y sawl sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi. Y neb ni chymero ei groes a’m canlyn i, nid yw deilwng o honof fi. Y neb sydd yn cadw ei einioes, á’i cyll; ond y neb sydd yn colli ei einioes, o’m hachos i, á’i ceidw hi.