Logotip YouVersion
Search Icon

Luwc 24:1-8

Luwc 24:1-8 CJW

Ond y dydd cyntaf o’r wythnos, hwy á aethant gyda thòriad y dydd, gyda rhai ereill, at y tomawd, gàn ddwyn y peraroglau à barotoisent, ac á gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddwrth y tomawd; a gwedi iddynt fyned i fewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. A bu, a hwy yn petruso am y peth hyn, wele dau wr á safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd gorddysglaer. Wedi dychrynu o’r gwragedd, a dàl eu golygon tua’r llawr, dywedodd y rhai hyn wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw yn mysg y meirw? Nid yw ef yma, ond efe á gyfododd; cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, cyn iddo adael Galilea, gàn ddywedyd, Rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd adgyfodi. Yna y cofiasant ei eiriau ef.