Logotip YouVersion
Search Icon

Ioan 3:25-36

Ioan 3:25-36 CJW

A bu dadl rhwng dysgyblion Ioan ag Iuddew yn nghylch puredigaeth. Yna yr aethant at Ioan, ac á ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi gèr yr Iorddonen, i’r hwn y rhoddaist y fath air da; y mae yntau hefyd yn trochi, a’r bobl yn ymdỳru ato. Ioan á atebodd, Ni ddichon dyn gaffael dim awdurdod ond à rodder iddo o’r nef. Chychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddarfod i mi ddywedyd, Nid myfi yw y Messia, ond wedi fy anfon yr ydwyf o’i flaen ef. Yr hwn sy ganddo y briodferch yw y priodfab; ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn ei gynnorthwyo ef, sydd yn llawenychu oblegid clywed llais y priodfab; hwn, fy llawenydd i, gàn hyny, sy gyflawn. Rhaid ydyw iddo ef gynnyddu, tra byddwyf finnau yn lleiâu. Yr hwn sydd yn dyfod oddiuchod, sy goruwch pawb. Yr hwn sydd o’r ddaiar sy ddaiarol, a fel un à fai o’r ddaiar y mae yn llefaru. Yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sy goruwch pawb. Yr hyn y mae efe yn ei dystiolaethu, yw yr hyn à welodd ac á glywodd efe; èr hyny ei dystiolaeth ef nid ydys yn ei derbyn. Yr hwn sydd yn derbyn ei dystiolaeth ef, sydd yn ardystio geirwiredd Duw. Canys yr hwn á gènadwriaethodd Duw, sydd yn mynegi geiriau Duw ei hun; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd. Y mae y Tad yn caru y Mab, a gwedi darostwng pob peth iddo ef. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol; yr hwn sydd yn gwrthod y Mab, ni wel fywyd; eithr y mae dialedd Duw yn ei aros ef.