Logotip YouVersion
Search Icon

Ioan 2:13-17

Ioan 2:13-17 CJW

Gàn bod y pasc Iuddewig yn agos, Iesu á aeth i Gaersalem; a gwedi canfod newidwyr arian yn eistedd yn y deml, a rhai yn gwerthu ychain, a defaid, a cholomenod; efe á wnaeth fflangell o reffynau, ac á’u gỳrodd hwynt oll allan o’r deml, gyda ’r defaid a’r ychain, gàn wasgaru arian y newidwyr, a dymchwelyd eu byrddau; ac á ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomenod; Dygwch y rhai hyn oddyma. Na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. (Yna ei ddysgyblion ef á gofiasant y geiriau hyn o’r ysgrythyr, “Fy aidd dros dy dŷ di á’m hysa i.”)