Oes rhywun ohonoch sy’n chwennych
Byw’n hir, gweld daioni a’i fwynhau?
Ymgadw rhag traethu drygioni,
Gwna dda, a chais hedd sy’n parhau.
Mae’r Arglwydd yn gwarchod y cyfiawn,
A’i glustiau’n agored i’w cri,
Ond mae’n gwrthwynebu’r drygionus,
I ddifa pob cof am eu bri.