1
Salmau 17:8-12
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Megis cannwyll loyw dy lygad Cadw fi, a’m cuddio dan Dy adenydd rhag gelynion Sydd o’m cwmpas ym mhob man. Bras eu calon, balch eu tafod, Maent amdanaf wedi cau, Bron â’m bwrw i’r llawr a’m llarpio, Megis llew yn llamu o’i ffau.
Porovnať
Preskúmať Salmau 17:8-12
2
Salmau 17:13-15
Cyfod, Arglwydd, yn eu herbyn; Bwrw hwy i lawr i’r baw. Gwared fi rhag y drygionus, A dinistria hwy â’th law. Cosba hwy, a chadw weddill I’w babanod, wŷr di-hedd. Ond caf fi, pan gyfiawnheir fi, Fy nigoni o weld dy wedd.
Preskúmať Salmau 17:13-15
3
Salmau 17:5-7-5-7
Ar hyd llwybrau yr anufudd Byddai ’nghamau’n pallu’n syth, Ar dy lwybrau di, fodd bynnag, Nid yw ’nhraed yn methu byth. Gwaeddaf am dy fod yn f’ateb. Dangos dy ffyddlondeb triw, Ti sy’n achub â’th ddeheulaw Bawb a’th geisia’n lloches wiw.
Preskúmať Salmau 17:5-7-5-7
Domov
Biblia
Plány
Videá