Ioan 6:34-40
Ioan 6:34-40 DAFIS
Gwedon nhwy wrtho, 'Mishtir, rho'r bara 'ma i ni trw'r amser.’ Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'Fi yw bara'r bowid; bydd neb sy'n dod ata i in llwgu 'to, a bydd neb sy'n credu inda i in sichedu 'to. Ond wedes i 'na wrthoch chi, sach bo chi wedi'ng ngweld i, ond wedyn weth senoch chi'n credu. Bydd pob un ma'r Tad wedi'u rhoi i fi in dwâd ata i, a fydda i byth in troi bant unriw un sy'n dod ata i, achos sena i wedi dod lawr o'r nefodd i neud fel dwi moyn, ond i neud beth mae'r un nâth in hala i moyn ifi neud. A 'co beth ma'r un nâth in hala i moyn, bo fi ddim in colli hyd 'n ôd un o'r rhei mae e wedi rhoi i fi, ond bo fi'n u codi nhwy lan ar i Dwarnod Diwetha. Achos 'co beth ma'n Dad i moyn, fod pob un sy'n gweld y Mab ac in credu indo fe in câl bowid am byth; a bydda i'n codi fe lan ar i Dwarnod diwetha.’