Ioan 6:25-33
Ioan 6:25-33 DAFIS
Pan ffeindon nhwy e ar ochor arall i llyn, gwedon nhwy wrtho fe, 'Rabbi, pryd ddes ti 'ma?' Atebo Iesu nhwy, 'Dwi'n gweud i gwir in blaen wrthoch chi nawr, ych chi'n whilio amdana i, ddim achos ich bo chi wedi gweld i pethe dwi wedi neud, ond achos bo chi wedi bita llond ich bolie o'r cwge. Peidwch gweithio am fwyd sy'n pwdru; gweithwch am fwyd sy'n para a sy'n dod â bowid am byth, i bwyd bydd Crwt i Dyn in rhoi ichi; achos iddo fe ma Duw i Tad wedi rhoi comands.’ Gwedon nhwy wrtho, 'Beth yn ni fod i neud, fel bo ni'n neud gwaith Duw?' Atebo Iesu nhwy, 'Co beth yw gwaith Duw, credu in ir un mae e wedi'i hala.’ So wedon nhwy wrtho fe, 'Beth wit ti'n i neud 'te, fel gallwn ni weld a credu indo ti?' Beth wit ti'n neud? Bitodd in tade ni fanna in i lle diffeth, jwst fel gâs i i reito, “Rhoiodd e fara o'r nefodd iddon nhwy i fita.”' Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi: ddim bod Moses wedi rhoi bara o'r nefodd i chi' ond ma'n Dad i in rhoi i bara iawn o'r nefodd. Achos bara Duw yw'r un sy'n dod lawr o'r nefodd a sy'n rhoi bowid i'r byd.’