YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 5:16-30

Ioan 5:16-30 DAFIS

Achos 'ny dachreuodd ir Iddewon erlid Iesu, achos bo fe wedi neud i pethe 'ma dy Sabath. Atebo Iesu nhwy, 'Lan hys naws seno'n Dad i wedi peido gweitho, ac dwi'n gweitho fel mae e'n neud.’ Achos hyn treiodd ir Iddewon in galetach byth i ladd e, ddim dim ond achos i fod e wedi torri dy Sabth, ond achos i fod wedi galw Duw in Dad iddo, a neud i unan 'run peth â Duw. Gwedo Iesu wrthyn nhw, 'Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, seno'r Mab in galler neud ddim byd i unan, gall e ddim ond neud beth mae e'n gweld i Tad in neud; achos 'ta beth ma'r Tad in i neud, ma'r Mab in i neud e 'fyd. Achos ma'r Tad in caru'r Mab, a'n dongos popeth mae e'n i neud iddo, a bydd e'n dangos peth mwy 'to iddo fe, a fe gewch chi'ch sinnu. Fel ma'r Tad in codi rhei sy'n farw a'n rhoi bowid iddyn nhwy, ma'r Mab 'fyd in rhoi bowid i'r rhei mae e'n dewish rhoi bowid iddyn nhwy. Seno'r Tad in barnu neb, ond mae e wedi rhoi'r gwaith o farnu i'r Mab, fel bo pob un in parchu'r Mab, yn gowir fel man nhwy'n parchu'r Tad. Os nadi rhiwun in parchu'r Mab, seno whaith in parchu'r Tad nâth i hala fe.