Salmau 17:13-15
Salmau 17:13-15 SCN
Cyfod, Arglwydd, yn eu herbyn; Bwrw hwy i lawr i’r baw. Gwared fi rhag y drygionus, A dinistria hwy â’th law. Cosba hwy, a chadw weddill I’w babanod, wŷr di-hedd. Ond caf fi, pan gyfiawnheir fi, Fy nigoni o weld dy wedd.