Logótipo YouVersion
Ícone de pesquisa

Mathew 5:3-12

Mathew 5:3-12 DAFIS

“‘Na jecôs yw'r rhei sy'n gwbod bo nhwy miwn ishe; achos nhwy sy pia Teyrnas Dduw. ‘Na jecôs yw'r rhei sy'n mwrno; achos gewn nhwy gisur. ‘Na jecôs yw'r rhei mwynedd; achos nhwy bydd pia'r ddeiar. ‘Na jecôs yw'r rhei sy'n llwgu a'n sichedu am beth sy'n iawn; achos gewn nhwy ddigon. ‘Na jecôs yw'r rhei sy'n dangos treni; achos gewn nhwy dreni. 'Na jecôs yw'r rhei sy â calon lân; achos gewn nhwy weld Duw. 'Na jecôs yw'r rhei sy'n neud heddwch; achos gewn nhwy 'u galw in blant i Dduw. 'Na jecôs yw'r rhei sy'n câl 'u herlid achos bo nhwy'n neud beth sy'n iawn; achos nhwy sy pia Teyrnas Dduw. 'Na jecôs ych chi pan ma dinion in neud sbort ar 'ich pen chi a'n ich erlid chi, a'n gweud bo chi'n neud pob mathe o bethe drwg ar in gownt i. Gallwch chi enjoio 'ny, achos ma'ch gwobor chi'n fowr in i nefodd. 'Na shwt wen nhwy'n erlid i proffwydi o'ch blân chi.

Leia Mathew 5