Matthaw 6:16-18

Matthaw 6:16-18 JJCN

A pan unprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneb-drist: canys y maent yn anffurfio eu hwynebau, fel yr ymddangosant i ddynion eu bod yn un-prydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. Eithr pan unprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb; Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn unprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel a dal i ti yn yr amlwg.