1
Matthew 16:24
Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.
နှိုင်းယှဉ်
Matthew 16:24ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
2
Matthew 16:18
Ac yr wyf finau hefyd yn dywedyd i ti, Ti yw Petr; ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys, a phyrth Hades nis gorchfygant hi.
Matthew 16:18ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
3
Matthew 16:19
A rhoddaf i ti agoriadau Teyrnas Nefoedd; a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear, a fydd rwymedig yn y Nefoedd; a pha beth bynag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y Nefoedd.
Matthew 16:19ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
4
Matthew 16:25
Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei fywyd a'i cyll; a phwy bynag a gollo ei fywyd o'm plegyd I a'i caiff.
Matthew 16:25ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
5
Matthew 16:26
Canys pa leshad a fydd i ddyn os ennill efe yr holl fyd a fforfedu ei fywyd ei hun; neu pa beth a rydd dyn yn bridwerth am ei fywyd.
Matthew 16:26ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
6
Matthew 16:15-16
Efe a ddywed wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? A Simon Petr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw.
Matthew 16:15-16ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
7
Matthew 16:17
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon fab Jonah, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.
Matthew 16:17ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
ပင်မစာမျက်နှာ
ကျမ်းစာ
အစီအစဉ်
ဗီဒီယို