1
Mark 9:23
Y Cyfammod Newydd - Y Pedair Efengyl 1818 (John Jones)
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo.
နှိုင်းယှဉ်
Mark 9:23ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
2
Mark 9:24
Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymmorth fy anghrediniaeth i.
Mark 9:24ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
3
Mark 9:28-29
Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilldu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac unpryd.
Mark 9:28-29ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
4
Mark 9:50
Da yw yr halen: ond os bydd yr halen yn ddihâllt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd.
Mark 9:50ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
5
Mark 9:37
Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw blant yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.
Mark 9:37ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
6
Mark 9:41
Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwppanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.
Mark 9:41ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
7
Mark 9:42
A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell yw iddo gael maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr.
Mark 9:42ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
8
Mark 9:47
Ac os dy lygad â’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i freniniaeth Duw yn un-llygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân i’r floeddgar dyffryn
Mark 9:47ရှာဖွေလေ့လာလိုက်ပါ။
ပင်မစာမျက်နှာ
ကျမ်းစာ
အစီအစဉ်
ဗီဒီယို