Mathew 14:1-36

Mathew 14:1-36 DAFIS

Obitu'r amser 'na cliwo Herad i Terach beth we'n câl i weud am Iesu, a gwedodd e wrth i weishon, “Ioan Fididdiwr yw hwn; mae e wedi codi o farw, a fel 'na gall pobol weud bod fid neth mowr ar waith indo fe.” We Herod wedi aresto Ioan, wedi'i glwmu e lan a'i roi e in i shâl ar gownt Herodias, gwraig i frawd Philip; achos we Ioan wedi gweu 'tho, “Sen i'n iawn iti iti i gâl hi.” Wedd e ishe lladd Ioan ond we ofon i crowd arno, achos wen nhwy'n i weld e fel proffwyd. Ar ben-blwydd Herod dawsondd rhoces Heriodias o flân i rhei we wedi dwâd i'r parti a enjoiodd Herod; so addawodd e gida llw i roi iddi hi beth binnag bise i'n holi amdano fe. Nâth i mam roi'r idea iddi ofyn, “Rho ben Ioan Fediddiwr ifi ar ddisghyl fan 'yn.” We'r brenin in becso, ond achos i fod e wedi neud llw a we'r rhei we'n ishte wrth i ford gidag e rhoiodd e ordors iddo gâl i roi iddi. Halodd e a torri pen Ioan in i shâl. Dethon nhwy â'r pen at i rhoces miwn dishgyl a nâth hi fynd ag e at i mham. Dâth disgiblion Ioan a mynd â'r coff, a'i gladdu’ wedyn dethon nhwy at Iesu a gweu 'tho beth we wedi digwydd. Pan gliwo Iesu co fe'n cilio o'r lle 'na ar gwch i rywle tawel ar i ben i unan. Cliwo'r crowde a'i ddilyn a cered o'r trefi. Pan ddâth e o'r cwch gwelodd e growd mowr, a deimlodd ei dreni drostyn nhwy a nâth e wella'r rhei we ddim in iawn. Pan ddâth i'n nos dâth i disgiblion ato a gweud, “Ma'r lle ma'n lle unig, a ma'r dwarnod wedi mynd heibo. Hal i crowde bant fel gallan nwhy ynd miwn i'r pentrefi i bernu bwyd i’w hunen.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Sdim ishe iddyn nhwy fynd bant; rhowch rwbeth iddyn nhwy fita ich hunen.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Dim ond pum torth o farw a dou bisgodyn sy 'da ni fan 'yn.” Gwedodd e, “Dewch â nhwy 'ma ata i.” Rhoiodd e ordors i'r crowd ishet lawr ar i porfa. Wedyn cwmrodd e'r pum torth a'r ddou bisgoydn, drych lan i'r nefodd a gweud bendith; a pan wedd e wedi torri'r torthe rhoiodd e nhwy i'r disgiblion, a rhoiodd i disgiblion nhwy i'r crowde. Nethon nhwy i gyd fita hys bo nhwy'n llawn, a nethon nhwy gasglu'r cwlffe we dros ben, llond douddeg basgeded i gyd. We biti rhyw beder mil o wrwod in bita fan 'ny, heb sôn am i menwod a'r plant. Wedyn halodd Iesu'r disgiblion i fynd miwn i gwch a mynd i'r ochor arall ‘o'i flân e, tra wedd e'n hala'r crowde bant. Âth e bant a lan i'r mini ar i ben i unan i weddïo. Pan ddâth i'n nos wedd e fan 'ny ar i ben i unan o hyd. We'r cwch, in bell o'r tir in barod, in câl i bwrw in galed 'da'r tonne, achos we'r gwynt in i herbyn hi. Rhwng tri a whech o'r gloch i bore âth e atyn nhwy in cered ar i dŵr. Pan welo'r disgiblion i fod e'n cerd ar i dŵr, gethon nhwy ofon a gweud, “Isbryd sy 'na”; a nethon nhwy weiddi mas in uchel achos u hofon. Wedyn sharado Iesu gida nhwy, a gweud, “Peidwch becso! Fi yw e. Peidwch câl ofon.” Atebo Pedr e, “Mishtir, os ti yw e, rhoi orders ifi ddwâd atot ti ar i dŵr.” Gwedodd e, “Dere.” Dâth Pedr lawr o'r cwch, cered ar i dŵr a mynd at Iesu. Ond pen welodd e faint mor gryf we'r gwynt gâs e ofon, a wedd e'n dachre shinco pan weiddodd e mas in uchel, “Arlgwidd, safia fi!” Wedyn mistinodd Iesu i law, cidjo indo fe a gweu 'tho, “O 'na fach o ffydd sy 'da ti! Pam nes di ame?” Pan ddethon nwy miwn i'r cwch fe stopodd i gwynt. Pligo bob un we ar i cwch o'i flân e, a gweud, “In wir, ti yw Crwt Duw.” Wedi 'ddyn groeshi nethon nhwy lando in Capernaum. Nâth dinion i lle 'ny i nabod e a halon nhwy air trw'r ardal i gyd, a dethon nhwy â bob un we'n dost ato fe a begina arno fe iddyn nhwy gâl twtsh a gweilod i wishg e. A gâth bob un nâth gwrdd â'r wishg gâl u gwella.