Mathew 9

9
Gallu i faddau
1Felly aeth Iesu yn ei ôl i’r cwch, croesi’r llyn, a chyrraedd ei ddinas ei hun.
2A dyma ryw bobl yn dod ato â dyn wedi ei barlysu yn gorwedd ar wely. Wrth weld eu ffydd, meddai Iesu wrth y dyn, “Cymer gysur, fy mab, mae dy bechodau di wedi eu maddau.”
3“Cablu yw peth fel hyn,” meddai rhai o athrawon y Gyfraith ynddyn nhw eu hunain.
4Fe wyddai’r Iesu beth oedd yn eu meddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam mae’n rhaid ichi feddwl y fath feddyliau drwg? 5P’un sy hawsaf, dweud wrth hwn, ‘Mae dy bechodau di wedi eu maddau’, neu ddweud wrtho, ‘Cod a cherdda’? 6Ond er mwyn ichi wybod fod gan Fab y Dyn hawl ar y ddaear yma i faddau pechodau,” meddai wrth y dyn a barlyswyd, “Cod, gafael yn dy wely a dos adref.”
7A dyma fe’n codi a mynd adre. 8Daeth dychryn dros y dyrfa wrth weld yr hyn a ddigwyddodd, a dyna nhw’n torri allan i glodfori Duw am roi’r fath awdurdod i ddynion.
Galw Mathew
9Wrth fynd yn ei flaen oddi yno fe welodd Iesu ddyn o’r enw Mathew yn eistedd yn swyddfa’r dreth. Meddai wrtho, “Dilyn fi.” Cododd yntau a’i ganlyn.
Cyfaill pechaduriaid
10Pan oedd Iesu wrth y bwrdd yn y tŷ, daeth llawer o gasglwyr trethi a throseddwyr eraill i eistedd gydag ef a’i ddisgyblion. 11Sylwodd y Phariseaid ar hyn, ac medden nhw wrth ei ddisgyblion, “Pam mae’ch meistr chi’n eistedd i fwyta gyda chasglwyr trethi a throseddwyr?”
12Clywodd yr Iesu nhw, ac meddai, “Nid ar bobl iach mae angen meddyg ond ar bobl afiach. 13Ewch a dysgwch beth yw ystyr hyn: ‘Am drugaredd rydw i’n gofyn, nid am aberth.’ Dod wnes i i wahodd troseddwyr nid rhai ‘cyfiawn’.”
Y drefn newydd
14Wedyn dyma ddisgyblion Ioan ato, ac medden nhw, “Beth yw’r achos ein bod ni a’r Phariseaid yn ymprydio llawer a dy ddisgyblion di yn gwrthod?”
15Meddai yntau wrthyn nhw, “A all ffrindiau’r priodfab fod yn drist tra mae’r priodfab gyda nhw? Fe gollan nhw’r priodfab ryw ddiwrnod; dyna fydd yr amser iddyn nhw ymprydio.
16“Does neb yn clytio hen ddilledyn â darn o frethyn newydd; fe fyddai’r clwt yn tynnu wrth y dilledyn a’r rhwyg yn mynd yn waeth nag erioed. 17Dydyn nhw ddim yn arllwys gwin newydd mewn hen boteli crwyn; os gwnân nhw, fe rwyga’r poteli, a dyna’r gwin wedi ei golli a’r poteli wedi eu difetha. Na, maen nhw’n arllwys gwin newydd i boteli newydd; a dyna’r ddau yn ddiogel.”
Cyffwrdd er iachâd
18Fel roedd yn siarad, dyma lywydd yn dod gan blygu o’i flaen, a dweud, “Mae fy merch newydd farw; ond tyrd a rho dy law arni, ac fe ddaw bywyd yn ôl iddi.”
19Cododd Iesu a mynd gydag ef, a’i ddisgyblion yn ei ddilyn.
20Yna daeth gwraig, a oedd wedi dioddef ers deuddeng mlynedd gan waedlif, o’r tu ôl iddo a chyffwrdd ag ymyl ei wisg.
21“Dim ond i mi gyffwrdd â’i wisg fe gaf wellhad,” meddai hi wrthi ei hun.
22Fe drodd yr Iesu a’i gweld, ac meddai, “Cymer gysur, fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu.” Ac o’r foment honno fe wellodd y wraig.
23Pan gyrhaeddodd Iesu dŷ’r llywydd, a gweld rhai’n canu ffliwtiau a’r dyrfa’n cadw sŵn, 24meddai, “Allan â chi! Nid wedi marw y mae’r eneth; cysgu y mae hi.”
Ei wawdio wnaethon nhw. 25Ond wedi eu troi nhw i gyd allan, aeth i mewn i’r ystafell a chydio yn llaw’r eneth, a dyna hithau’n codi. 26A bu’r peth yn destun siarad yr ardal honno i gyd.
27Wrth iddo ymadael oddi yno daeth dau ddyn dall ar ei ôl gan weiddi ar ucha’u llais. “Fab Dafydd, cymer drugaredd arnom ni.”
28Wedi iddo fynd i’r tŷ fe ddaeth y deillion ato, ac meddai’r Iesu wrthyn nhw, “Ydych chi’n credu y galla i wneud hyn?”
Medden nhw wrtho, “Ydym, Syr.”
29Yna fe gyffyrddodd â’u llygaid, a dweud, “Bydded i chi fel mae eich ffydd chi.” 30Ac fe agorwyd eu llygaid.
“Cofiwch, dim gair wrth neb am hyn,” meddai’r Iesu’n llym wrthyn nhw. 31Ond fe aethon nhw ymaith a dweud amdano yn y wlad honno i gyd.
32Wedi iddyn nhw ddod allan, daeth rhywrai â dyn mud ato a hwnnw ym meddiant cythraul. 33Fe yrrodd y cythraul allan, a dechreuodd y dyn siarad. Roedd pawb wedi rhyfeddu, “Welwyd dim byd fel hyn erioed o’r blaen yn Israel,” medden nhw.
34Ond meddai’r Phariseaid, “Mae’n bwrw allan gythreuliaid trwy gymorth pennaeth y cythreuliaid.”
35Aeth Iesu yn ei flaen ar daith drwy’r holl ddinasoedd a’r pentrefi, gan ddysgu yn eu synagogau a phregethu’r Newyddion Da am y Teyrnasiad, a gwella pob math o haint ac afiechyd. 36Roedd yr olwg a oedd ar y bobl yn ei lenwi â thosturi — fel defaid heb fugail, yn anniddig a diymgeledd. 37“Mae cynhaeaf toreithiog,” meddai wrth ei ddisgyblion, “ond mae prinder gweithwyr. 38Erfyniwch, felly, ar i berchennog y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.”

Terpilih Sekarang Ini:

Mathew 9: FfN

Highlight

Kongsi

Salin

None

Ingin menyimpan sorotan merentas semua peranti anda? Mendaftar atau log masuk