Pan ddâth Iesu i ardal Caeserea Ffilipi holodd e i'r disgiblion, “Pwy ma dinion in gweud yw Crwt i Dyn?” Gwedon nhwy, “Ma rhei in gweud, ‘Ioan Fididdiwr’; rhei erill, ‘Eleias’; a rhei erill, ‘Jeremeia, neu un arall o'r proffwydi’.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Ond beth amdanoch chi, pwy ŷch chi'n gweud wdw i?” Atebo Simon Pedr, “Ti yw'r Meseia, Crwt i Duw byw.” Atebo Iesu nhwy, “Wit ti'n hapus Simon Barjona; ddim dinion sy wedi dangos 'na i ti, ond in Dad in i nefodd. A weda i hyn wrtho ti, Pedr wit ti,” (istyr Pedr yw Craig) “a ar i graig 'ma bidda i'n codi in Eglws, a neith marwoleth ddim i trechu 'ddi. Rhoia i allewddi Teyrnas Nefodd i ti, a beth binnag wit ti stopo ar i ddeiar geith i stopo in i nefodd, a beth binnag wit ti'n gadel ar i ddeiar geith i adel in i nefodd.” Wedyn wedodd e wrth i ddisgiblion in sharp i beido gweud wrth neb taw fe we'r Meseia.
O'r amser 'ny mlân dachreuodd Iesu ddangos i’w ddisgiblion bo'n rhaid iddo fe fynd i Jerwsalem, diodde lot o law'r henaduried, i penffeiradon a'r rhei sy'n digur’ Gifreth, câl i ladd, a câl i godi ar i tridydd dwarnod. Cwrmodd Pedr e i un ochor a gweu 'tho'n sharp, “Gall 'na ddim digwydd, Mishtir! Neith 'na ddim digwydd i ti!” Troiodd e a gweud wrth Pedr, “Cer tu ôl i fi, Satan. Wit ti'n stopo fi neud beth wi fod neud, achos senot ti'n meddwl fel ma Duw in meddwl, ond fel ma dinion in neud.”
Wedyn gwedo Iesu wrth i ddisgiblion, “Os ma unrhiw un ishe dwâd ar in ôl i, ma rhaid iddyn nhwy in i lle cinta troi cewn ar u hunen, codi u cwres a'n ddilyn i. Os ma unrhiw un ishe safio'u bowid u hunen newn nhwy i golli e, ond os gollith unrhiw un u bowid er in fwyn i newn nhwy i gâl e. Achos beth i’w iws i unrhiw un ennill i byd i gyd in grwn a colli u bowid? Neu beth gall unrhiw un rhoi fel prish ar u bowid? Achos ma Crwt i Dyn i ddwâd in gogoniant i Dad gida'i aniglon, a wedyn neith e roi i bob un in ôl fel man nwy wedi neud. Dw i'n gweud i gwir wthoch chi, ma rhei in sefyll fan 'yn heddi na newn nhwy brofi marwolaeth nes bo nhwy'n gweld Crwt i Dyn in dwâd in i deyrnas.