Matthew 22
22
Dammeg priodas mab y brenin.
[Luc 14:16–24]
1A'r Iesu a atebodd ac a lefarodd drachefn mewn dammegion wrthynt, 2gan ddywedyd, Cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a wnaeth briodaswledd#22:2 Gamos, gwledd briodasol, er na ddynoda hyny o angenrheidrwydd; ond unrhyw wledd fawr a chyhoeddus, ar achlysur esgyniad i'r orsedd, dyfod i oedran, &c. Gweler Esther 1:5; 9:32. Yma y mae y briodas yn amlwg. Defnyddir y rhif lluosog, gamoi, i ddangos ei gorwychder, ei pharhad, ei hamrywiaeth, &c. i'w fab, 3ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r briodaswledd; ac ni fynent hwy ddyfod. 4Trachefn efe a anfonodd weision ereill, gan ddywedyd, Dywedwch i'r gwahoddedigion, Wele, yr wyf wedi parotoi fy nghiniaw, fy ychain a'm pasgedigion ydynt wedi eu lladd#22:4 Llyth., wedi eu haberthu., ac y mae pob peth yn barod: deuwch i'r briodaswledd. 5A hwy yn esgeulus a aethant ymaith, un i'w faes ei hun, ac arall at#22:5 At [epi] א B C D Brnd. i'w [eis] L. ei fasnach. 6A'r gweddill a ddaliasant ei weision ef, ac a ymddygasant yn warthus tuag atynt, ac a'u lladdasant. 7Eithr y brenin oedd#22:7 Pan glywodd C X Δ; gad. א B L Brnd. yn llidiog, ac a ddanfonodd ei fyddinoedd, ac a ddyfethodd y llofruddion hyny, ac a losgodd eu dinas hwynt. 8Yna efe a ddywed wrth ei weision, Y briodaswledd yn wir sydd barod, ond y gwahoddedigion nid oeddynt deilwng. 9Ewch, gan hyny, i gydgyfarfyddiadau y prif‐ffyrdd#22:9 Llyth., Ffyrdd drwy y rhai yr ä ffyrdd allan, felly, dynoda croesffyrdd, lleoedd agored, lle y cyfarfydda ac yr ymgasgla pobl, tramwyfeydd, tryffyrdd., a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch hwynt i'r briodaswledd. 10A'r gweision hyny a aethant allan i'r prif‐ffyrdd, ac a gasglasant yn nghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd yr ystafell#22:10 Yr ystafell briodas א B L Ti. WH.; y briodas wledd C D Δ La. Tr. Diw. briodas o wahoddedigion#22:10 Llyth., O rai a eisteddasant [wrth y bwrdd].. 11A phan ddaeth y brenin i fewn i weled y gwahoddedigion#22:11 Llyth., O rai a eisteddasant [wrth y bwrdd]., efe a welodd yno ddyn nad oedd wedi gwisgo gwisg priodas. 12Ac efe a ddywed wrtho, Gyfaill,#22:12 Llyth., Cydymaith. pa fodd y daethost i fewn yma heb fod genyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. 13Yna y brenin a ddywedodd wrth ei weision#22:13 Diakonos, gwas ar gyfrif ei waith yn hytrach nâ'i sefyllfa, gweinyddwr., Rhwymwch ei draed a'i ddwylaw#22:13 A chymmerwch ef ymaith C X Ti.; gad. א B L Al. Tr. La. WH., a bwriwch ef allan i'r tywyllwch eithaf#22:13 Llyth., sydd fwy y tu allan. “Tafler ef o'r ystafell oleu ac ysplenydd i'r tywyllwch dudew sydd y tu allan.”. Yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. 14Canys llawer sydd wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.
Teyrnged Cesar ac iawnderau Duw.
[Marc 12:13–17; Luc 20:20–26]
15Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymmerasant gynghor fel y rhwydent#22:15 Pagideuô. Gair anadnabyddus i'r Groegiaid, o pagis, magl, yn enwedig er mwyn dal adar (Diarebion 6:5; Salm 91:3). ef yn#22:15 Gad. yn ei ymadrodd א. ei ymadrodd#22:15 Neu, â gair neu ymadrodd, sef y gofyniad yn adn. 17.. 16Ac y maent yn danfon ato eu Dysgyblion yn nghyd a'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn eirwir, a'th fod yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad ydwyt yn prisio am neb, oblegyd nid ydwyt yn edrych ar wyneb dynion. 17Dywed i ni, gan hyny, beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged#22:17 Kensos, cofrestriad gyda bwriad i drethu, yna y deyrnged a delid gan unigolion yn flynyddol. i Cesar, ai nid yw? 18Ond yr Iesu yn gwybod eu drygioni hwy, a ddywed, Paham yr ydych yn fy nhemtio I, O ragrithwyr? 19Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant iddo ddenarion. 20Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraff? 21Hwy a ddywedant wrtho, Eiddo Cesar. Yna efe a ddywed wrthynt, Rhoddwch yn ol#22:21 Apodote, rhoddi yn ol, rhoddi fel yn ddyledus [Rhuf 13:7], gan hyny, eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw. 22A phan glywsant, hwy a ryfeddasant, a chan ei adael, hwy a aethant ymaith.
Plant yr Adgyfodiad
[Marc 12:18–27; Luc 20:27–38]
23Y dydd hwnw y daeth ato Saduceaid#22:23 gan ddywedyd א B D Z Brnd.; y rhai a ddywedant אc., y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad, ac a ofynasant iddo, 24gan ddywedyd, Athraw, dywedodd Moses,
Os bydd marw neb heb iddo blant, ei frawd a brioda#22:24 Epigambreusei, o gambros, unrhyw berthynas drwy briodas, yna, gwneyd priodas fel brawd‐yn‐nghyfraith. ei wraig ef, ac a gyfoda hâd i'w frawd#Deut 25:5
25Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth, a adawodd ei wraig i'w frawd. 26Felly hefyd yr ail a'r trydydd, hyd y seithfed#22:26 Llyth., hyd y saith.. 27Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd. 28Yn yr Adgyfodiad, gan hyny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys yr oll a'i cawsant hi. 29A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, heb wybod yr Ysgrythyrau, na gallu Duw. 30Canys yn yr Adgyfodiad nid ydynt yn priodi nac yn cael eu rhoi mewn priodas; eithr y maent fel angylion yn#22:30 Duw א L Δ [Al.] Ti.; gad. B D E La. Tr. WH. Diw. y Nef. 31Ac am Adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, 32Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob#Ex 3:6? Nid yw efe#22:32 Nid yw efe Dduw y rhai meirw א B D L Brnd.; nid yw Duw Dduw y rhai meirw E. Dduw rhai meirw ond rhai byw.
33A phan glybu y torfeydd, hwy a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef.
Y gorchymyn mawr
[Marc 12:28–34]
34Ac wedi clywed o'r Phariseaid iddo roddi taw ar y Saduceaid, hwy a ymgynnullasant yn nghyd i'r un lle. 35Ac un o honynt, cyfreithiwr#22:35 Nomikos, un hyddysg yn y gyfraith, deonglydd neu ddysgawdwr y gyfraith., a'i holodd ef, gan ei brofi#22:35 Y mae y gair gwreiddiol peirazô yn eangach ei ystyr nâ'r gair temtio; golyga y blaenaf profi, pa un ai da neu ddrwg fydd yr amcan. “Profi,” Ioan 6:6; Heb 11:17; “ceisio,” Act 16:7. Nid yw yn amlwg yma fod y cyfreithiwr hwn yn temtio yr Iesu, h.y., yn ei holi gyda'r bwriad o'i faglu., 36Athraw#22:36 gan ddywedyd D; gad. א B L Brnd. ond Al. [o Marc 12:28]., pa#22:36 Golyga poia, o ba natur, ansawdd, &c.: “O ba natur yw y gorchymyn sydd fawr yn y gyfraith?” orchymyn sydd fawr yn y Gyfraith? 37Ac Efe#22:37 Iesu E; gad. א B L Brnd. a ddywedodd wrtho,
Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl#22:37 Llyth., “Yn dy holl galon,” &c. Felly y galon, yr enaid, a'r meddwl, yw sedd, neu gylch, neu gartrefle y cariad. feddwl.#Deut 6:5; 10:12
38Hwn yw y gorchymyn mawr#22:38 mawr a'r cyntaf א B D Z Brnd.; cyntaf a mawr Γ. a'r cyntaf. 39Ac y mae ail yn gyffelyb iddo:
Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.#Lef 19:18
40Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl Gyfraith yn crogi#22:40 Felly א B D L Brnd.; yr holl Gyfraith a'r Proffwydi yn crogi, rhai cyf. ac ysg. rhedegog. a'r Proffwydi.
Mab Dafydd.
[Marc 12:34–37; Luc 20:40–44]
41Ac wedi ymgasglu o'r Phariseaid yn nghyd, yr Iesu a'u holodd hwynt, 42gan ddywedyd, Beth dybygwch chwi am y Crist#22:42 Y Crist, felly drwy yr Efengylau: ynddynt y mae y Crist yn enw swyddogol.? Mab i bwy ydyw? Dywedant wrtho, Mab Dafydd. 43Yntau a ddywed wrthynt, Pa fodd gan hyny y mae Dafydd yn yr Yspryd#22:43 Neu trwy yr Yspryd, fel ysprydolydd yr Ysgrythyrau. yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,
44Dywedodd yr Arglwydd#22:44 Heb., Iehofa. wrth fy Arglwydd,#22:44 Heb., Adonai.
Eistedd ar fy neheulaw,
Hyd oni osodwyf dy elynion dan#22:44 dan [hupokatô] dy draed א B D L Brnd.; yn droedfainc i'th draed, rhai ysg. rhed. a chyf. [o'r LXX.] dy draed.#Salm 110:1
45Os yw Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn#22:45 trwy yr Yspryd D Δ K M; gad. א B L Brnd. Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? 46Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnw allan ei holi ef.
Селектирано:
Matthew 22: CTE
Нагласи
Сподели
Копирај
Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.