Matthew 21
21
Crist yn Marchogaeth i Jerusalem.
[Marc 11:1–10; Luc 19:29–38; Ioan 12:12–15]
1A phan yr agosasant i Jerusalem, ac y daethant i Bethphage, i fynydd yr Olew‐wydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau Ddysgybl, 2gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn ebrwydd chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt a dygwch ataf fi. 3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd eu heisieu: ac yn ebrwydd efe a'u denfyn hwynt. 4A hyn#21:4 oll B N; gad. א C D Z L Brnd. a ddygwyddodd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwyd, gan ddywedyd,
5Dywedwch i Ferch Seion,
Wele dy Frenin yn dyfod i ti,
Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen,
Ac ar ebol, llwdn anifail dan yr iau#21:5 Neu asen, fel yr anifail oedd fwyaf arferol â'r iau..#Es 62:11; Zech 9:9
6Y Dysgyblion a aethant ac a wnaethant fel y gorchymynodd yr Iesu iddynt; 7a hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a osodant arnynt y dillad#21:7 Himatia, y gwisgoedd uchaf, mentyll, clogynau, &c., ac efe a eisteddodd#21:7 a eisteddodd B C X Δ Brnd.; a'u gosodasant ef i eistedd א L. arnynt. 8A'r rhan fwyaf o'r dyrfa a daenasant eu dillad#21:8 Himatia, y gwisgoedd uchaf, mentyll, clogynau, &c. ar y ffordd; ac ereill a dorasant gangau o'r coed, ac a'u taenasant ar y ffordd. 9A'r torfeydd, y rhai oeddynt yn myned o'i flaen, a'r rhai oeddynt yn canlyn, oeddynt yn llefain, gan ddywedyd,
Hosanna#21:9 Hosanna, O achub! i Fab Dafydd,
Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd,
Hosanna yn y goruchafion.#Salm 118:25, 26
10A phan ddaeth efe i Jerusalem, yr holl ddinas a ysgydwyd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? 11A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw y proffwyd Iesu, o Nazareth yn Galilea.
Glanhau Ty Dduw.
[Marc 11:15–19; Luc 19:45, 46]
12A'r Iesu a aeth i fewn i'r Deml#21:12 i'r Deml א B L Brnd. ond Ti.; i Deml Dduw C D Ti., ac a daflodd allan bawb a'r a oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, a byrddau y cyfnewidwyr#21:12 O kollubos, pris y cyfnewidiad. Eisteddai y cyfnewidwyr yn Nghyntedd y Cenedloedd i gyfnewid yr arian estronol am Sicl y Cyssegr, er talu y dreth. arian efe a ddymchwelodd, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu y colomenod. 13Ac efe a ddywed wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig,
Fy nhŷ I, Tŷ Gweddi y gelwir ef.#Es 56:7
Eithr chwi ydych#21:13 ydych yn ei wneuthur א B L Brnd.; a'i gwnaethoch C D N X. yn ei wneuthur yn ogof yspeilwyr.#Jer 7:11
14A'r deillion#21:14 deillion a'r cloffion א B D L Brnd.; cloffion a'r deillion C N Δ L E F &c. a'r cloffion a ddaethant ato yn y Deml, ac efe a'u hiachaodd hwynt. 15A phan welodd yr Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant ag oeddynt yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i Fab Dafydd, hwy a sorasant, 16ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywed wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed,
O enau babanod a rhai sydd yn sugno y perffeithiaist#21:16 Salm 8:2, “y peraist nerth.” Golyga yr Hebraeg gosod i lawr sylfaen. Golyga y gair Groeg yma gorphen, cwblhau, perffeithio. Rhaid cael addoliad plant bychain cyn y bydd teml fawr moliant yn orphenedig. foliant?#Salm 8:2
17Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r Ddinas i Bethania, ac a lettyodd yno.
“Ddim ond dail.”
[Marc 11:19–24]
18Ac yn foreu, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r Ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. 19A phan welodd efe un ffigysbren ar ymyl y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac efe a ddywed wrtho, Na fydded ffrwyth o honot byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. 20A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren#21:20 Neu, Pa fodd y crinodd y ffigysbren yn ebrwydd?! 21A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Os oes genych ffydd, ac heb betruso#21:21 Neu, amheu., ni wnewch yn unig yr hyn a wnaed i'r ffigysbren#21:21 Neu, Ni wnewch yn unig hyn i'r ffigysbren., eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn#21:21 Sef Mynydd y Deml., Coder di i fyny, a bwrier di i'r môr; a hyny a fydd. 22A pha beth bynag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.
Ffynnonell awdurdod Crist.
[Marc 11:27–33; Luc 20:1–8]
23Ac wedi iddo ddyfod i'r Deml, yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant ato, ac efe yn dysgu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon? 24A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minau hefyd a fynegaf i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn: 25Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? O'r Nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef? 26Eithr os dywedwn, O ddynion, y mae arnom ofn y dyrfa, canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan fel proffwyd. 27A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Dammeg y ddau fab.
28Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, O Fab, dos, gweithia heddyw yn y winllan. 29Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Nid#21:29 Dyma y drefn yn א C D L Z L a Ti. Tr. Diw.; y mae B yn darllen Af, ac nid aeth efe. Ond nid yw darlleniadau B yma ac adn. 31 yn newid y synwyr. âf; ond wedi hyny yr oedd yn ddrwg#21:29 Metamelomai, bod yn wrthddrych gofal, pryder, &c., bod yn ofidus am, teimlo anesmwythder neu flinder meddwl yn cyfodi o'r teimlad o golled, &c. Defnyddir metameleia am weithredoedd unigol, tra y dynoda metanoia yr edifeirwch a rydd gyfeiriad newydd i'r holl fywyd. Defnyddir y ferf yn y testyn bump o weithiau yn y T.N., ac ni ddynoda bod yn edifeiriol yn yr ystyr efengylaidd (os nad yw yma yn eithriad), tra y defnyddir metanoeô 34 o weithiau. ganddo, ac a aeth. 30Ac efe a aeth at yr ail, ac a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Mi a âf, Arglwydd; ac nid aeth efe. 31Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant, Y#21:31 y cyntaf א C L Δ Al. Ti. Diw.; yr olaf B Tr. La. WH. [yr olaf, sef, yn ol Tregelles, y mwyaf hwyrfrydig, yr hwn oedd anfoddlawn ar y cyntaf, ond yn y diwedd a aeth]. cyntaf. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi yr ä y Trethgasglwyr a'r puteiniaid i Deyrnas Dduw o'ch blaen chwi. 32Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y Treth‐gasglwyr a'r puteiniaid a'i credasant ef; a chwithau, pan welsoch hyn, ni fu hyd#21:32 ni fu hyd y nod [oude] B Brnd. ond Ti.; ni fu [ou] א C L Ti. y nod ddrwg#21:32 Metamelomai, bod yn wrthddrych gofal, pryder, &c., bod yn ofidus am, teimlo anesmwythder neu flinder meddwl yn cyfodi o'r teimlad o golled, &c. Defnyddir metameleia am weithredoedd unigol, tra y dynoda metanoia yr edifeirwch a rydd gyfeiriad newydd i'r holl fywyd. Defnyddir y ferf yn y testyn bump o weithiau yn y T.N., ac ni ddynoda bod yn edifeiriol yn yr ystyr efengylaidd (os nad yw yma yn eithriad), tra y defnyddir metanoeô 34 o weithiau. genych ar ol hyny, fel y credech ef.
Dammeg y gwinllanwyr drygionus.
[Marc 12:1–12; Luc 20:9–19]
33Gwrandewch ddammeg arall: Yr oedd gwr, perchenog tŷ, yr hwn a blanodd winllan, ac a osododd glawdd#21:33 Neu gae. o'i hamgylch hi, ac a gloddiodd#21:33 Hyny yw, yn y graig, felly, dynoda ysgeuegu, cafnu (Es 5:2). ynddi win‐wasg#21:33 Gwingafn, gwinwryf., ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr#21:33 Llyth., trinwyr y ddaear., ac a aeth#21:33 Neu a aeth ar ymdaith, a aeth oddicartref (25:14; Marc 12:1). i wlad arall. 34A phan neshaodd tymhor y ffwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau#21:34 Sef y ffrwythau a berthynent iddo ef, ac nid i'r winllan.. 35A'r llafurwyr a gymmerasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant#21:35 Llyth., a daflasant gerryg ato.. 36Trachefn, efe a anfonodd weision ereill, fwy#21:36 Hyny yw, mwy o ran nifer, yn hytrach nâ sefyllfa. nâ'r rhai cyntaf, a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. 37Ac yn ddiweddaf, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab. 38Eithr pan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hunain#21:38 Neu ynddynt eu hunain., Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a chymmerwn#21:38 A chymmerwn [Llyth., bydded i ni gael] א B D L Brnd.; daliwn [kataschômen] C. ei etifeddiaeth ef. 39Ac wedi iddynt ei gymmeryd, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. 40Am hyny, pan ddel arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hyny? 41Hwy a ddywedant wrtho, Rai drwg, yn llwyr#21:41 Mae yn y gwreiddiol gyflythyriad (alliteration), yr hwn sydd anhawdd ei gyfleu mewn cyfieithiad (kakous kakôs) — Rai drwg, efe a'u dyfetha yn ddrwg; hyny yw, yn hollol. y dyfetha efe hwynt, ac a esyd y winllan allan i lafurwyr ereill, y cyfryw a dalant iddo y ffrwythau yn eu tymhorau.
42A'r Iesu a ddywed wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythyrau,
Maen a wrthododd#21:42 Llyth., annghymmeradwyodd. yr adeiladwyr,
Hwn a wnaethpwyd yn ben congl;
Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn,
A rhyfedd yw yn ein golwg ni.#Salm 118:22, 23
43Am hyny, meddaf i chwi, dygir Teyrnas Dduw oddiarnoch chwi, a rhoddir hi i genedl a ddygo ei ffrwythau hi. 44A'r#21:44 Mae yr adn. yn א B C Z Brnd. ond Ti.; Gad D. Ti. Gwel Luc 20:18. hwn a syrthio ar y maen hwn a chwilfriwir#21:44 Golyga y ferf canddryllio, briwo, malurio. yn ddarnau; eithr ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwal#21:44 Likmaô, o likmos, gwyntyll. Felly, dynoda y gair effaith syrthiad y maen, sef ar ol chwilfriwio yr hwn y syrthia arno; gwasgara ef fel “mân us” neu lwch (gweler Daniel 2:35, 44). fel llwch#21:44 Mae yr adn. yn א B C Z Brnd. ond Ti.; Gad D. Ti. Gwel Luc 20:18..
45A phan glybu yr Archoffeiriaid a'r Phariseaid ei ddammegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe. 46A hwy yn ceisio ei ddal, hwy a ofnasant y torfeydd, gan eu bod yn ei gymmeryd ef yn broffwyd.
Селектирано:
Matthew 21: CTE
Нагласи
Сподели
Копирај
Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.