Iöb 11
11
XI.
1Yna yr attebodd Tsophar y Naamathiad, a dywedodd,
2Yr hwn a amlhäo eiriau, onid attebir iddo?
Ac ai dyn siaradus sydd gyfiawn?
3Dy fawrair a wnelai i wŷr dewi,
A gwatwar yr wyt ac nid (oes) a’th gywilyddio,
4A dywedaist, “Pur (yw) fy nysgeidiaeth,
A glân ydwyf yn Dy olwg Di.”
5Ond, O na fyddai i Dduw lefaru,
Ac agoryd Ei wefusau yn dy erbyn,
6Ac hyspysu i ti ddirgeledigaethau Doethineb!
Canys dau gymmaint (ein) dealltwriaeth (ni ydynt):
Gwybydd gan hyny, faddeu o Dduw i ti (lawer) o’th anwiredd.
7Ai hyd i ymchwiliad Duw y deui di?
Ai hyd i berffeithrwydd yr Hollalluog y cenfyddi di?
8 # 11:8 maintioli y perffeithrwydd hwn. Uchelderau ’r nefoedd! beth a wnei di?
Dwfn rhagor uffern; beth a wybyddi di?
9Estynedig rhagor y ddaear o ran mesur!
Ac ehelaeth rhagor y môr!
10Pan ymosodo Efe, a charcharu,
A chynnull (i farn), pwy a’i rhwystra?
11 # 11:11 yr annuwiol tan olwg Duw er nad yw yn meddwl ei fod Canys Efe a edwyn y dynion drygionus,
Ac a wêl anwiredd, ac yntau heb ei ganfod;
12Ond dyn delffaidd sydd ddisynwyr,
Ac (fel) llwdn asyn gwŷllt y genir daearolyn.
13Os tydi a unioni dy galon,
Ac a ledi atto Ef dy ddwylaw:
14Od (oes) drygioni yn dy law, pellhâ ef,
Ac na thriged anwiredd yn dy #11:14 gwel sylwad ar 1:3.babell;
15Yna, yn ddïau, y cei godi dy wyneb heb frycheuyn,
Ac y byddi (fel drych) toddedig, ac ni chei ofni;
16Canys, yna, dy drallod a ollyngi dros gof,
Fel dyfroedd a aeth heibio y cofi (ef);
17A (disgleiriach) na hanner dydd y cwyd (dy) hoedl;
# 11:17 pob adfyd a ddiflanna yn uniawn. Tywylliad a fydd fel y bore;
18Ac hyderus y byddi o herwydd bod gobaith;
Os #11:18 sef, o achos rhyw anffawd.gwrido a fydd i ti, mewn hyder y cei fyned i ymorphwys;
19A thi a orweddi ac ni (bydd) a ’(th) ddychryno,
Ac â’th wyneb yr ymbilia llaweroedd.
20Ond #11:20 sef wrth edrych am gymmorthllygaid yr annuwiolion a ddiffygiant,
A noddfa a ddistrywiwyd iddynt,
A’u gobaith (yw) anadlu allan yr enaid.
Селектирано:
Iöb 11: CTB
Нагласи
Сподели
Копирај
Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.