Лого на YouVersion
Икона за пребарување

Marc 1:35-39

Marc 1:35-39 DAW

Fore trannoeth, cododd Iesu'n gynnar iawn ac aeth allan i le unig i weddïo. Aeth Simon a'i ffrindiau i chwilio amdano; ac wedi dod o hyd iddo, dyma nhw'n dweud: “Mae pawb yn chwilio amdanat ti.” Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd ymlaen i'r trefi nesaf i mi gael pregethu yno hefyd; dyna'r rheswm i mi ddod allan.” Aeth Iesu drwy holl Galilea gan bregethu yn y synagogau ac iacháu'r cleifion.