Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant iddo ddenarion. Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraff? Hwy a ddywedant wrtho, Eiddo Cesar. Yna efe a ddywed wrthynt, Rhoddwch yn ol, gan hyny, eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw.