Ioan 8:31-41

Ioan 8:31-41 DAFIS

Gwedo Iesu wrth ir Iddewon we wedi credu indo fe, “Os cadwch chi mlân in ing ngair, wedi ŷch chi'n ddisgiblion iawn i fi; a biddwch chi'n gwbod i gwir; a bydd i gwir in ich neud chi'n rhydd.” Atebon nhwy e, “Ŷn ni'n dilwith i Abraham, a senon ni wedi bod in gaethweishon i neb. Shwt wedyn weth wit ti'n gweud, 'Biddwch chi'n câl ich neud in rhydd'?” Atebo Iesu nhwy, 'Wi'n gweud i gwir wrthoch chi, ma unrhiw un sy'n pechu in gaethwas pechod. Seno'r caethwas in aros in i tŷ am byth; ma'r mab in aros am byth. Wedyn 'te, os yw'r Mab in ich neud chi'n rhydd, ŷch chi'n rhei rhydd. Dw i'n gwbod in iawn taw tilwith Abrham ŷch chi; ond ŷch chi'n treial ffindo ffordd in ladd i, achos sdim lle 'da chi ing ngair i. Dw i'n gweu 'thoch-chi beth weles i pan wen i gida'n Dad; ond ŷch chi'n neud beth gliwoch chi wrth ich tad.” Atebon nhwy e, “Ma Abraham in dad i ni.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Os bisech chi'n blant i Abraham bisech chi'n neud beth bise Abraham in i neud. Fel ma i, treial in ladd i ŷch chi, dyn sy wedi gweud i gwir a gliwodd e 'da Duw wrthoch chi. Nâth Abraham ddim byd tebyg. Ŷch chi'n neud gwaith ich tad chi.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Senon ni'n rhei sy heb dade; Duw, a dim ond Duw, yw in Tad ni.”