Ioan 4:27-38

Ioan 4:27-38 DAFIS

A'r funud 'ny dâth i ddsgiblion, a wen nhwy'n sinnu i weld e'n sharad gida menyw; ond wedo neb, 'Beth wit ti moyn?' neu 'Pam wet ti'n sharad 'da i?' Gado'r fenyw i stên, a bant â hi i'r dre a gweu 'tho'r dinion, 'Dewch i weld dyn sy wedi gweu 'tha i bopeth wi wedi'i neud ariôd; ife hwn yw'r Meseia?' Ethon nhwy mas o'r dre a dwâd ato fe. Ond we'r disgiblion in begian arno, a'n gweud, 'Rabbi, rhaid iti fita.’ Gwedodd e wrthon nhwy, 'Sdim bwyd 'da fi i fita bysech chi'n diall i fod e'n fwyd.’ Gwedo'r disgiblion wrth i gily, 'Wes rhiwun wedi dwâd a bwyd iddo, 'te?' Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'In fwyd i yw neud beth ma fe nâth i'n hala am i fi neud a bennu i waith e. Senoch chi'n gweud, “Pedwar mish 'to, a mae'n amser cineia?” Codwch ich lliged, dwi'n gweu 'thoch chi, a drichwch ar i perci; man nwy'n barod i'r cineia, Ma'r medelwr in câl i dalu ac in cwen cineia ar gifer bowid am byth, fel gall i howr a'r medelwr fod yn bles 'da i gily. Wedyn bydd ir hen ddihareb sy'n gweud fod un in hou a'r llan in medi in dwâd in wir. Hales i chi i gwên peth wenoch chi wedi gweithio amdano; rhei erill we wedi neud i gwaith i gyd, a nethoch chi rannu in ffrwyth u gwaith nhwy.’