Mica 2

2
PENNOD II.
1Gwae y rhai a ddychymygant drawsder,
Ac a weithredant ddrwg ar eu gwelyau!
Ar oleuni y boreu gwnant ef,
Pan fyddo yn ngallu eu llaw.
2Pan chwennychent feusydd, ysglyfaethant;
Neu dai, cymerant hwynt ymaith;
Ië, gormesant ŵr a’i dŷ,
A dyn a’i etifeddiaeth.
3Am hyny fel hyn y dywed Iehofa,
Wele fi yn dychymygu i’r teulu hwn ddrwg,
Yr hwn ni thynwch rhagddo eich gyddfau,
Ac ni rodiwch yn uchelfryd,
Canys amser drygfyd a fydd.
4Yn y dydd hwnw y cyfodir am danoch ddiareb,
A galarir galar galarnad,#2:4 Hyn yw yr Hebraeg yn gywir. “Diareb” yma yw ymadrodd a arferid yn gyffredin, ac yr oedd yn “alarnad.” Brenin Assyria a newidiai y “rhan” a rodded gan Dduw i Israel. Nid oedd argoel yr ymadawai, gan y rhanai ymhlith ei ddeiliaid “y meusydd,” yn lle eu “dychwelyd,” i blant Israel.
A dywed yr anrheithiedig, “Anrheithiwyd ni!
Rhan fy mhobl a newidia;
Pa fodd yr ymadawa er fy mwyn!
Yn lle dychwelyd, fy meusydd a rana!”
5Am hyny ni bydd i ti neb a fwrio linyn coelbren,
Yn nghynnulleidfa Iehofa.
6“Na phrophwydwch a brophwydant;”
Ni phrophwydant i’r cyfryw;
Ni symudir gwaradwyddiadau.#2:6 Dywediad y bobl yw y llinell gyntaf; ateb Duw yw y ddwy a ganlyn: ni wnai brophwydo iddynt, gan eu gadael yn eu “gwaradwyddiadau,” heb ymdrechu eu symud. Neu fel hyn; — “Na phrophwydwch; prophwydant hwy, Y rhai na phrophwydant am y cyfryw bethau; Nid ymadawa gwaradwyddiadau!” Yn ol hyn, geiriau y bobl ydynt oll. Gwarafunent y gwir brophwydi, darlunient y rhai oeddent i brophwydo, ac achwynent eu bod yn cael eu gwaradwyddo yn barhaus. Gwel adn. 11. Dyhidlo, yw y gair a arferir yma am brophwydo: “Na ddyhidlwch,” &c. Gwel Esec. 20:46; Amos 7:16; “nac yngan,” yn Amos, a ddylai fod “na ddyhidla,” sef, na phrophwyda.
7Ai a ddywedir gan dŷ Iacob,#2:7 Neu, yn ol darlleniad rhai copïau, “A ddywedodd tŷ Iacob.” Arferir y gair “byrhau” am ddiffyg amynedd a diffyg nerth. Yr achwyniad oedd, naill ai bod “Ysbryd Iehofa” yn fyr o ran amynedd, gan y digllonai yn fuan; neu yn fyr o ran nerth, gan nad allai gyflawni ei amcanion. “Ai y cyfryw,” &c., iaith gwawd.
“A fyrhaodd Ysbryd Iehofa?
Ai y cyfryw ydynt ei weithrediadau?”
Oni wna fy ngeiriau ddaioni
I’r neb a rodio yn uniawn?
8Ond fy mhobl er cynt, yn elynion y cyfodant;
Oddiar yr hugan y diosgwch y clôg#2:8 Neu “fantell.” Er eu bod yn bobl iddo er cynt, er hir amser, eto, cyfodant megys gelynion yn erbyn ei awdurdod.
Oddiam y rhai a dramwyant yn hyderus,
Yn dychwelyd o ryfel:
9Gwragedd fy mhobl a yrwch allan,
Pob un o dŷ ei hoffderau;
Oddiar ei phlant y cymerwch ymaith
Fy addurniad dros byth.#2:9 Yr addurniad oedd eu dillad: cyfeirir fel y tybir, at Ecsod. 22:25.
10Codwch ac ewch ymaith,
Am nad hon yw eich gorphwysfa;
O herwydd ei halogi, dinystrir hi, A’r dinystr fydd yn nerthol.
11Os gau-ddywed neb, sy’n dilyn yr ysbryd a thwyll,
“Prophwydaf i ti am win a diod gadarn;”
Yna daw yn brophwyd i’r bobl hyn.
12Gan gasglu casglaf Iacob, — ti oll,
Gan gynnull cynnullaf weddill Israel;
Ynghyd y gosodaf hwynt fel defaid yn Bosra,
Fel praidd yn nghanol eu corlan,
A drystiant o herwydd dynion:
13Esgyn y rhwygydd ger eu bron;
Rhwygant trwodd a thramwyant trwy’r porth;#2:13 “Rhwygant,” sef y rhwygydd a’i ganlynwyr. Gosodir allan Iacob ac Israel wedi eu cynnull fel defaid mewn corlan, sef yn eu dinasoedd. Mae y rhwygydd a’i ganlynwyr yn dyfod ac yn tori trwy y porth ac yn myned i mewn. Yna änt hwy, sef y cynnulledig, allan, a’u brenin hefyd, a than dywysiad Iehofa. Tybia rhai, mai addewid o ddychweliad a gynnwys y ddwy adnod hyn, ond nid addas i hyn y ceir y geiriau.
Yna hwy a änt allan trwyddo,
A thramwya eu brenin o’u blaen,
A Iehofa yn ben arnynt.

ទើបបានជ្រើសរើសហើយ៖

Mica 2: CJO

គំនូស​ចំណាំ

ចែក​រំលែក

ចម្លង

None

ចង់ឱ្យគំនូសពណ៌ដែលបានរក្សាទុករបស់អ្នក មាននៅលើគ្រប់ឧបករណ៍ទាំងអស់មែនទេ? ចុះឈ្មោះប្រើ ឬចុះឈ្មោះចូល