1
Mathew 5:15-16
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Does neb yn cynnau lamp a’i dodi dan lestr mesur, ond ar stand, i roi golau i bawb yn y tŷ. Rhaid i chithau, fel y lamp, oleuo ymhlith eich cyd-ddynion, fel pan welon nhw y daioni a wnewch chi y byddan nhw’n rhoi gogoniant i’ch Tad nefol.”
ប្រៀបធៀប
រុករក Mathew 5:15-16
2
Mathew 5:14
“Chi yw goleuni’r byd. Allwch chi ddim cuddio dinas sy wedi’i chodi ar ben mynydd.
រុករក Mathew 5:14
3
Mathew 5:8
Mor ddedwydd yw y pur o galon; fe gân nhw weld Duw.
រុករក Mathew 5:8
4
Mathew 5:6
Mor ddedwydd yw y rhai sy’n dyheu ac yn ysu am weld cyfiawnder; fe gân nhw eu bodloni.
រុករក Mathew 5:6
5
Mathew 5:44
Ond fel hyn y dywedaf fi wrthych chi: Cerwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid
រុករក Mathew 5:44
6
Mathew 5:3
“Mor ddedwydd yw’r rhai sy’n cydnabod eu bod yn dlawd yn ysbrydol; nhw biau teyrnas Nefoedd.
រុករក Mathew 5:3
7
Mathew 5:9
Mor ddedwydd yw’r sawl sy’n gweithio am heddwch; fe’u gelwir yn blant i Dduw.
រុករក Mathew 5:9
8
Mathew 5:4
Mor ddedwydd yw’r sawl sy’n galaru; fe gân nhw eu cysuro.
រុករក Mathew 5:4
9
Mathew 5:10
Mor ddedwydd yw’r rhai sydd wedi cael eu herlid am eu bod yn gyfiawn: nhw biau teyrnas nefoedd.
រុករក Mathew 5:10
10
Mathew 5:7
Mor ddedwydd yw’r rhai trugarog; fe gân nhw drugaredd.
រុករក Mathew 5:7
11
Mathew 5:11-12
Mor ddedwydd chithau pan fydd pobl yn eich sarhau ac yn eich erlid ac yn gelwyddog yn eich galw’n bob enw gwael er fy mwyn i. Byddwch lawen a gorfoleddus, fe gewch eich gwobrwyo’n dda yn y nefoedd. Fel hyn y cafodd y proffwydi o’ch blaen chi eu herlid.”
រុករក Mathew 5:11-12
12
Mathew 5:5
Mor ddedwydd yw’r rhai addfwyn; fe gân nhw etifeddu’r ddaear.
រុករក Mathew 5:5
13
Mathew 5:13
“Chi yw halen y ddaear. Unwaith y cyll yr halen ei flas, sut y gwneir ef yn hallt drachefn? Dyw ef yn dda i ddim nawr ond i’w daflu allan a’i sathru dan draed.
រុករក Mathew 5:13
14
Mathew 5:48
Byddwch chi felly yn berffaith, fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.”
រុករក Mathew 5:48
15
Mathew 5:37
Mae ‘Ie’ neu ‘Nage’ syml yn llawn digon; yr un drwg sy tu ôl i bopeth dros ben hynny.
រុករក Mathew 5:37
16
Mathew 5:38-39
“Fe glywsoch ddweud: ‘Llygad am lygad a dant am ddant’. Ond fel hyn y dywedaf fi wrthych chi: Peidiwch â gwrthwynebu’r dyn sy’n gwneud drwg i chi.
រុករក Mathew 5:38-39
17
Mathew 5:29-30
“Os yw dy lygad de’n dy arwain ar gyfeiliorn, tyn ef allan a thafla ef i ffwrdd; gwell iti golli un o’th aelodau nag i’th gorff i gyd gael ei daflu i uffern. Ac os yw dy law dde’n dy arwain ar gyfeiliorn, tor hi i ffwrdd a’i thaflu ymaith; gwell iti golli un o’th aelodau nag i’th gorff i gyd fynd i uffern.
រុករក Mathew 5:29-30
គេហ៍
ព្រះគម្ពីរ
គម្រោងអាន
វីដេអូ