Marc 10:13-16

Marc 10:13-16 DAW

Daeth y bobl â phlant at Iesu er mwyn iddo roi ei law arnynt, ond ceryddodd y disgyblion nhw. Digiodd Iesu pan welodd hyn a dwedodd wrth y disgyblion, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro oherwydd mae teyrnas Dduw yn perthyn i rai fel nhw. Credwch fi, ni chaiff neb fynd i mewn i deyrnas Dduw os nad ydy e'n ei derbyn hi fel plentyn.” Yna cofleidiodd nhw a dododd ei ddwylo arnynt a'u bendithio.