Genesis 28:20-22
Genesis 28:20-22 BWMG1588
Yna yr addunodd Iacob adduned gan ddywedyd: os Duw fydd gyd a’m fi, ac a’m ceidw yn y ffordd ymma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara iw fwytta, a dillad i wisco: A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhâd: yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi. A’r garrec ymma yr hon a ossodais yn ei sefyll a fydd yn dŷ Duw, ac o’r hyn oll a roddech i mi, gan ddegymmu mi ai degymmaf ef i ti.