1
Ioan 1:12
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef
比較
Ioan 1:12で検索
2
Ioan 1:1
Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
Ioan 1:1で検索
3
Ioan 1:5
A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
Ioan 1:5で検索
4
Ioan 1:14
A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
Ioan 1:14で検索
5
Ioan 1:3-4
Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion.
Ioan 1:3-4で検索
6
Ioan 1:29
Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.
Ioan 1:29で検索
7
Ioan 1:10-11
Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef. At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.
Ioan 1:10-11で検索
8
Ioan 1:9
Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.
Ioan 1:9で検索
9
Ioan 1:17
Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.
Ioan 1:17で検索
ホーム
聖書
読書プラン
ビデオ