Salmau 8:1-2

Salmau 8:1-2 SCN

O Arglwydd, mor ardderchog Dy enw drwy’r holl fyd. Gosodaist dy ogoniant Goruwch y nef i gyd. Ond codaist fawl babanod, Plant sugno bychain, gwan, I’th warchod rhag d’elynion A’u trechu yn y man.