Salmau 16:11

Salmau 16:11 SLV

Cyfrinach llwybr bywyd a ddangosi i mi, Sef y llawenydd llawn digonol sydd yn Dy bresenoldeb, A’r digrifwch dwys sydd yn Dy ymyl byth. SALM XVI Un o chwech o Salmau a ddug deitl cyffelyb, sef Michtam Dafydd, cân euraid neu ddewisol. Aeth y Salm hon ar gyfeiliorn oddi wrth ei thylwyth. (Gwêl Salmau 56—60). Yn briodol iawn y gelwir hi’n Salm Ffydd, a phrin y dengys unrhyw ddarn arall o Ysgrythur odidoced peth oedd y grefydd Iddewig ar ei gorau. 2. Nid oes angen ‘enaid’ yn y frawddeg. Doda’r Salmydd pob ymddiriedaeth am ei ffyniant yn Nuw. 3. Rhaid yw gwneud y gorau o destun llygredig. Dyma ddarlleniadau eraill: “I’r saint sydd yn y tir, dengys Iehofa anrhydedd”. “I’r saint sydd yn y tir, Dy ddilynwyr rhagorol, ynddynt mae Fy holl hyfrydwch”, 4. Gellir darlleniad arall, sef “Gofidiau aml sydd i’r gwrthgilwyr”, a rhy hyn synnwyr da. Cyfeirio a wna’r adnod at eilunaddoliaeth Syria a Phalesteina a ffynnai yn y wlad yn nyddiau olaf y Gaethglud. Ond gellir darllen, “ni thywalltaf eu diod-offrymau oherwydd gwaed”, oherwydd mai gwŷr gwaedlyd sydd yn eu hoffrymu. Gwrthod cymryd eu henwau ar ei wefusau ydyw ymwadu yn llwyr â hwynt, sef a’r dynion gwaedlyd a’r eilun-addolwyr. 5. “Fy rhan — fy etifeddiaeth — fy ffiol”. Gwêl Num. 18:20 lle dywedir nad oedd i’r Lefiaid na rhan nac etifeddiaeth namyn Iehofa ei hun. “Pa beth bynnag a ddymuna gall ei feddiannu yn Nuw, a pha beth bynnag a feddianna yn Nuw, y mae Duw yn ei ddiogelu iddo” yn wyneb pob gelyn. 6. Y lleoedd hyfryd a fesurwyd iddo gan y llinynnau ydyw Canaan, y ddaear santaidd, a’i etifeddiaeth deg yw Iehofa ei hunan. 7. Ystyrid yr ‘arennau’ fel crud a tharddle y teimladau, ond gwell ei gyfieithu yn ‘gydwybod’. Cyfystyr ydyw ‘llais ei gydwybod yn y nosau du’ â chyngor Iehofa. Y mae ei gydwybod yn ategu’r cyngor. 10. Yn y cyfieithiad Cymraeg arferol, “ni adewi fy enaid yn uffern”. Y mae ‘fy enaid’ yn gyfystyr a ‘myfi’, a saif uffern am ‘Sheol’, neu ‘Hades’. Bro y cysgodion yw Sheol, ac yno y disgyn y da a’r drwg yn ddiwahaniaeth. Rhywle yn iselderau’r ddaear y mae’r fro hon, ac nid oes yno gosbi na gwobrwyo, na chymdeithas â dyn na Duw, adlewyrch gwelw a gwannaidd o’r bywyd hwn sydd yno. Dilynwn Thomas Briscoe a chyfieithu Sheol gan Annwn, ond dylai’r diwyd droi i dudalen 99 “Pedeir Keinc y Mabinogi” gan Ifor Williams a darllen ei nodyn golau ef ar Annwfn. Y mae ‘llygredigaeth’ yr hen gyfieithiad yn amhosibl. Nid y bedd ychwaith yw’r gair a gyfieithir ‘pydew’ uchod, ond enw arall am Sheol. Dyry y ddwy adnod olaf y pwnc mawr sydd i’w drafod ynglŷn â’r Salm hon. A oes yma gyfeiriad at fywyd anfarwol tu hwnt i’r bedd? A ydyw’r Salmydd yn edrych dros y gorwel pell i fyd arall? Prin yw cyfeiriadau’r Salmau at fywyd ar ôl hwn, yn wir ni chynnwys unrhyw gyfeiriad pendant a diamwys oni chytunir fod yma gyfeiriad felly. Gobaith yr Hebrewr oedd cael hiroes ar y ddaear, a byw drachefn yn ei blant a’i wyrion. Y mae’n anodd felly credu bod y Salm hon yn cyfeirio at anfarwoldeb a bywyd ysbrydol newydd a ddechreua pan ddigwyddo angau i ddyn. Ond beth ynteu yw ystyr y ddwy adnod olaf? Traethu ei ffydd a wna’r Salmydd na ddichon dim ei wahanu oddi wrth ei Arglwydd Iehofa, — ni all Sheol ei wahanu, fe ddisgyn i’r Pydew hwn yn hyderus a di-ofn gan ei fod Ef yn ei ymyl. Ac os bydd Iehofa yn ei ymyl yn Sheol fe ddichon Iddo ddatguddio i’w ‘un annwyl’ gyfrinach llwybr bywyd, a throi y fangre honno yn fan llawenydd a digrifwch. Ond ni ddengys neb yn yr Hen Destament ffydd ddewrach nag awdur y Salm hon.