Vèsè popilè nan Bib la ki soti nan Salmau 87

Canu a dawnsio a wna pawb Sydd a’u cartref ynot ti. SALM LXXXVII Pan gyfansoddwyd y Salm hon yr oedd yr Iddewon ar wasgar ledled y byd, ac efallai mai un o’r Iddewon oedd yn byw yn un o’r dinasoedd pell a’i canodd. Ond ym mha ddinas bynnag y trigai Iddew ynddi, Sion oedd piau ei galon, a hyhi oedd ei fam. 1—3. Safai Ieriwsalem fel Rhufain ar amryw fryniau, a phob un ohonynt yn santaidd oherwydd santeiddrwydd y mynydd y safai’r Deml arno. Y mae Iehofa yn caru ‘holl breswylfeydd Iacob’, sef dinasoedd eraill y wlad, ac efallai y dinasoedd yn y gwledydd pell lle trigai Iddewon ffyddlon, ond Sion oedd gwrthrych mawr ei gariad, a thrwy broffwydi yr oedd wedi dywedyd bethau rhagorol am dani, a rhoddi addewidion gwych iddi. 4—7. Iehofa sy’n llefaru yn 4 a 5. Ganwyd llawer o’r Iddewon yn yr Aifft a Babilon, etc., a chofir am danynt oherwydd hynny, a pha le bynnag y ganwyd hwynt Sion yw ei mam ysbrydol, a phan ysgrifenno Iehofa restr o’i bobl fel deiliaid Sion y cyfrifir hwynt. Yn adn. 7 rhoir darlun o lawenydd y neb a gâr Sion. Y mae’n anodd gwybod hyd sicrwydd beth ydyw’r ystyr, y newid lleiaf a ddyry “cartref” yn lle “ffynhonnau”. Yr oedd dawnsio yn rhan o ddefodaeth crefydd gynt. “Ynot ti,” h.y. yn Sion. 1. Ystyriwch serch alltud at ganolfan crefydd ei genedl. Ai colled i Gymru ydyw nad oes ganddi hi ganolfan felly? A fyddai’n fantais i Gymru gael prifddinas ac ynddi deml fawr a geisiai rhoddi mynegiant i athrylith crefyddol y genedl? 2. Ai mantais i wareiddiad ydyw gwaith yr Iddew yn glynu wrth ei grefydd ym mha wlad bynnag y bo? Ai mantais ai anfantais oedd y gwasgaru a fu ar yr Iddewon i lwyddiant y cenhadon Cristnogol?