Marc 3:7-12
Marc 3:7-12 DAFIS
Âth Iesu a'i ddisgiblion bant i lan i llyn, a dâth crowd mowr o Galilea ar u hôl nhwy. Dâth mwy o ddinion weth o Jiwdea, o Idwmea, o ochor draw i afon Iorddonen a o ardal Teirus a Seidon. A wên‐nhwy i gyd in dwâd achos u bo nhw wedi cliwed beth wedd‐e'n i neud. Gofinodd‐e i'r disgiblion gâl cwch in barod iddo fe achos i crowd, fel na bise‐fe'n câl i wasgu. Achos i fod e wedi gwella shwt gwmint o ddinion we pob un we unryw beth in bod arnyn nhwy'n dwâd mlân i dwtsh ag e. A pan bidde isbridion drwg in i weld e, bydden‐nhwy'n cwmpo lawr o'i flân e a gweiddi “Ti yw Crwt Duw!” Ond wede‐fe wrthon nhwy'n blaen i beido gweud dim byd amdano fe wrth neb.