Pan ddâth Iesu nôl i Gapernaum cwpwl o ddwarnode'n 'weddarach, fe âth ir hanes ar led i fod e wedi dwâd getre. Dâth shwt gwmint o ddinion 'na, fel bo ddim lle ar ôl i neb arall in i tŷ, ddim hyd 'n‐ôd tu fas drws. A we Iesu'n prigethu'r Gair iddon nhwy pan ddâth dinion â rhiwun we wedi'i barlisu ato fe. We pedwar in cario'r dyn, on achos wen‐nhw ddim in galler mynd ag e trw'r crowd at Iesu, agoron‐nhwy do'r tŷ lle we Iesu'n sefyll. Wedi iddon nhwy dorri twll in i to, gollingon‐nhwy'r matras we'r dyn we ddim in dda in gorwe arno fe lawr trw'r twll. Pan welo Iesu 'u ffydd nhwy gwedodd‐e wrth i dyn we ddim in dda, “In fachan i, ma di bechode wedi cal u madde.” Nawr we rhei o'r dinion we'n disgu'r Gifreth in ishte fan'ny, a wên‐nhwy'n meddwl wrthon nhwy'u hunen, “Pam ma'r dyn 'ma in sharad fel hyn? Mae‐e'n cablu. Sneb on Duw in galler madde pechode, wes e?” Diallodd Iesu streit beth we'n u meddilie nhwy a wedodd‐e wrthon nhwy, “Pam ÿch‐chi'n meddwl pethe fel 'na? Be sy rwydda neud: gweud wrth i dyn tost 'ma, ‘Ma di bechode di wedi câl u madde’, neu gweud, ‘Saf ar di drâd, cija'n di fatras a cerdda’? On fe ddangosa‐i i chi bo da Crwt i Dyn ir hawl i fadde pechode ar i ddeiar,” — wedyn fe wedodd‐e wrth i dyn we wedi'i barlisu — “Gronda arna i: saf ar di drâd, a cija'n di fatras a cer getre.” Cododd i dyn, cidjo'n i fatras a mynd ar i ffordd tra wên‐nhwy i gyd yn watsho. We pob un wedi'i sinnu a wên‐nhwy'n moli Duw a gweud, “Welon‐ni ddim byd fel hyn ariôd o'r blân.”
קריאה Marc 2
שתף
השוואת גרסאות: Marc 2:1-12
שמרו פסוקים, קראו במצב לא מקוון, צפו בקטעי הוראה ועוד!
YouVersion משתמש בקובצי Cookie כדי להתאים אישית את החוויה שלך. על ידי שימוש באתר שלנו, אתה מקבל את השימוש שלנו בעוגיות כמתואר ב מדיניות הפרטיות שלנו
בית
כתבי הקודש
תכניות
קטעי וידאו