Salmau 7
7
SALM VII.
8au. 8 llin.
Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r Arglwydd o blegid geiriau Cus, mab Iemini.
1Ymddiried ynot ti, O Dduw!
I’m cadw rhag y gelyn ’rwy’,
2Rhag iddo larpio f’enaid byw,
Na bo gwaredydd iddo mwy;
3O Arglwydd Dduw! os gwnaethum hyn,
4O thelais ddrwg i neb am dda —
Neu os na achubais i y dyn
Oedd imi ’n elyn llawn trahâ:—
5Erlidied ef, y gelyn mawr,
Fy enaid — goddiwedded ef,
Sathred fy mywyd ar y llawr;
Ac na wrandawed neb fy llef:
6Cwyd yn dy ddig, O Dduw! yn glau,
O herwydd llid y gelyn ddyn,
A deffro drosof i gwblhau
Y farn orch’mynaist di dy hun.
7Daw tyrfa’r bobloedd felly’n rhwydd
I amgylchynu ’th sedd yn llu,
Ymddyrcha dithau yn eu gŵydd
I’th lys, yn yr uchelder fry:
8O Arglwydd! Barnwr Mawr a Rhi
Y bobloedd ar y ddaear hon,
Barn di dy hun fy achos i
’Nol fy nghyfiawnder ger dy fron.
9Anwiredd annuwiolion cas
Darfydded weithian, peidied byth;
Ond cyfarwydda di, o’th ras,
Y cyfiawn yn dy ffyrdd dilyth:
Can’s cyfiawn wyt — ti’n unig sy’
’N adnabod dyfnder calon dyn:
10Tydi yw fy Ngwaredwr cry’,
A phawb o union galon gun.
Rhan II.
M. S.
11Duw sydd yn Farnwr cyfiawn iawn,
A Duw sydd ddigllawn beunydd
Wrth yr annuwiol fỳn barhau
I ddilyn llwybrau efrydd.
12Ac oni ddychwel ef ar frys,
Boed hyn yn hysbys iddo,
Fe hoga Duw ei gleddyf llym,
A dwyfol rym i’w daro.
Ac eisoes mae ei fŵa dig
Yn anneledig ato;
13Angeuol arfau’n barod wnaeth
I wneyd gorfodaeth arno.
14’R annuwiol ymddwyn yn ei fryd
Ar bob rhyw enbyd aflwydd;
Beichioga ar gamwedd yn ddibwyll,
Esgora ar dwyll a chelwydd.
15Efe a dorodd bwll i ddyn,
A diwyd bu’n ei gloddio;
A’r cyntaf oll oedd ef ei hun
A syrthiodd wed’yn ynddo.
16Syrth ei anwiredd ar ei ben,
A gwna lwyr ddiben arno;
A’i drahâ ar ei gopa syrth,
A derfydd byth am dano.
17Clodforaf di, O Arglwydd Nêr!
Am dy gyfiawnder canaf;
Canmolaf d’ enw tra f’wyf byw,
O Arglwydd Dduw goruchaf!
Nodiadau.
Nid ychydig yw nifer y tybiau gwahanol a fu ynghylch pwy oedd y Cus, mab Iemini, y cyfeirir ato yn nheitl y salm hon, gan nad oes un crybwylliad am ŵr o’r enw hwnw yn hanes Dafydd. Anfuddiol fyddai coffau y gwahanol dybiau hyny. Yr hon a ymddengys yn fwyaf tebygol yw, mai Saul ei hun ydoedd y “mab Iemini” hwn, ond na ddewisai Dafydd ei enwi yn eglur. Rhoddai awgrymiad yn unig pwy oedd y person a olygid ganddo — mai Saul mab Cis ydoedd, gan droi y Cis yn Cus, mewn ffordd o ochelgarwch. Cyfeiria, fe ddichon, at y geiriau a lefarodd Saul yn ei erbyn wrth ei weision (1 Sam xxii. 7, 8), pan y cyhuddai ef o fradwriaeth yn erbyn ei goron a’i fywyd, er y darfuasai iddo ef ei ddyrchafu a’i anrhydeddu. Gwystla yntau ei enaid yn ddiofryd i ddinystr mewn gwadiad o’r cyhuddiad brwnt, ac appelia at Farnwr Mawr y byd fel tyst o’i ddiniweidrwydd, a rhydd ei achos yn hyderus yn ei law ef i wneyd âg ef gyfiawnder. Sicrhâ ei fod, nid yn unig yn ddieuog o dalu drwg am dda, fel y cyhuddai y mab Iemini hwnw ef; ond o’r tu arall, ei fod wedi talu da am ddrwg yn hytrach — a gwnaeth felly i’w elyn penaf, Saul, droion. Mor hyderus y gall yr hwn nad yw ei galon ei hun yn ei gondemnio nesau at Dduw, pan fyddo dynion yn ei gyhuddo a’i gondemnio ar gam. Cydwybod yn cyhuddo, a chalon yn condemnio, sydd yn gwanhau hyder yr enaid ger bron Duw mewn gweddi. Am gyfiawnder i’w achos yn unig y gweddïai Dafydd yn y salm hon, ar sail cyfiawnder ac uniondeb ei fater, fel un cwbl ddiniwed o’r hyn y cyhuddid ef gan ddynion. Am drugaredd yn unig y gweddïai yn y salm o’r blaen, fel un a gyhuddid gan ei gydwybod ei hun o’i fod yn euog fel troseddwr yn erbyn Duw. Y mae cyfiawnder Duw yn ngwaredigaeth y diniwed yn ogoneddus; ond y mae ei drugaredd yn ngwaredigaeth yr euog, yn llawer mwy gogoneddus. Clodfora y Salmydd yr Arglwydd fel Barnwr cyfiawn yn benaf yn y salm hon, ac ymhyfryda ynddo yn y cymmeriad hwnw; canys ar y wyneb hwnw i’r cymmeriad Dwyfol y mae efe yn edrych y waith hon. Y mae y gân yn rhagorol iawn drwyddi; ond y mae ei ganiadau clodforedd i ras a thrugaredd faddeuol ei Dduw yn rhagorach a melusach.
נבחרו כעת:
Salmau 7: SC1875
הדגשה
שתף
העתק
רוצים לשמור את ההדגשות שלכם בכל המכשירים שלכם? הירשמו או היכנסו
Tŵr Dafydd gan y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog). Cyhoeddwyd gan Thomas Gee, Dinbych 1875. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.