Telwch iddo wrogaeth, rhag iddo ddigio, A dyfod diwedd arnoch, Canys y peth lleiaf a ennyn Ei ddicter. O mor hapus yw pawb a gaffo gysgod ynddo Ef. SALM II Salm amddifad arall, a gwaith ofer ydyw ceisio ei hamseru. Amryfal ydyw dyfaliadau esbonwyr, a phriodolwyd hi i bob cyfnod rhwng Dafydd ac Alecsander Iannaeus (104-78 c.c.). Y mae’r Salm hon yn Feseianaidd (gwêl Rhagymadrodd), ac yn yr ystyr hon y dehonglwyd hi gan yr Iddewon. 1—3. Y mae teyrnas y Meseia yn fyd-eang, ac ymestyn ei lywodraeth dros frenhinoedd daear, a chais hwythau ddymchwel ei awdurdod. 4—6. Cyferbynnir dwndwr y ddaear â thawelwch y nefoedd, ac oferedd geiriau’r cynllwynwyr â dychryn geiriau Iehofa. 7—9. Etholedig Iehofa, y Meseia ei hun sydd yn llefaru’r geiriau hyn, a diau fod proffwydoliaeth Nathan yn 2 Sam. 7. ym meddwl yr awdur. 10—12. Cyngor a rhybudd y Salmydd sydd yn yr adran hon. Y mae testun yr adnod olaf yn anodd iawn, a pheth bynnag a ddichon fod y darlleniad cywir, nid ‘cusenwch y Mab’ ydyw hwnnw. Bwriad y Salmydd oedd cyfleu rhyw syniad tebyg i’r cyfieithiad uchod. 1. I ba raddau y mae’r pennill cyntaf yn ddarlun o gyffro bywyd y cenhedloedd heddiw? Ai gwrthryfel yn erbyn Duw ydyw achos yr anhunedd? 2. A all Duw ymyrraeth yn uniongyrchol, fel yr awgryma’r ail bennill, i ddofi dig cenhedloedd gwrthryfelgar? 3. Gelwir yr Iddewon yn “genedl gobaith”. Yng ngoleuni’r trydydd pennill pa mor wir yw hyn? 4. Myfyriwch y cyfeiriadau mynych sydd yn y Testament Newydd at y Salm hon. A ydyw Actau 4:25 yn braw mai Dafydd yw ei hawdur hi? Ym medydd a gweddnewid Crist dyfynnir hi (Mc. 1:11 a 9:2-8). Yn ôl Paul cyflawnwyd geiriau’r 7 adnod yn ei Atgyfodiad, ac yn Hebreaid 1:5 a Heb. 5:5 cymhwysir hwynt at y Crist gorseddedig. Gwelir hefyd Dat. 2:27; 12:5 a 19:15.
קריאה Salmau 2
שתף
השוואת גרסאות: Salmau 2:12
שמרו פסוקים, קראו במצב לא מקוון, צפו בקטעי הוראה ועוד!
YouVersion משתמש בקובצי Cookie כדי להתאים אישית את החוויה שלך. על ידי שימוש באתר שלנו, אתה מקבל את השימוש שלנו בעוגיות כמתואר ב מדיניות הפרטיות שלנו
בית
כתבי הקודש
תכניות
קטעי וידאו