Salmau 43:5

Salmau 43:5 SLV

Paham, f’enaid, yr anobeithi? A phaham y griddfeni o’m mewn? Gobeithia yn Nuw; Canys caf eto ei foliannu Ef, iechyd fy wyneb am Duw. SALM XLII A XLIII Un Salm yw 42 a 43 yn cynnwys tri phennill a chytgan cyffelyb yn diweddu pob un ohonynt. Y mae uchel ddawn y bardd yn amlwg yn ei gân, a dengys adn. 7 ei fod yn alltud yn y fro sydd wrth odreon Mynydd Hermon ac yn cynnwys tarddiad afon Iorddonen, ond nid oes dim yn ei gân yn dywedyd mai alltud gorfod ydoedd. Ond y mae’n werth sylwi na ddinistriwyd eto yr allor a’r cysegrleoedd yn Ieriwsalem, a chanwyd y gân cyn ei dinistrio hi. Egyr y Salm hon ail lyfr y Salmau. 1. Gwell ‘ewig’ na ‘hydd’. Cyffelybir yr alltudion i ddyhead ewig am ddwfr. 2. ‘Edrych ar wyneb Duw’. Ni fedrai oes ddiweddarach ddygymod â’r syniad hwn, a newidiwyd i frawddeg fwy didramgwydd, sef ‘ymddangos ger bron Duw’. 3. Ni ddywedir yn bendant pwy yw’r gelynion. Os alltudion gorfod oedd y Salmydd hwn a’i gymheiriaid, gellir yn rhwydd briodoli’r Salm i gyfnod cynnar y Gaethglud gyntaf, a chwerw i’r alltudion a fyddai dannod i’r gelyn fod Duw Israel yn ddiallu. 4. Y mae’r alltud hwn hefyd fel llawer alltud arall yn tynnu cysur o atgofion. Cyfeiriad sydd yn y frawddeg olaf at y gwyliau pererin, a’r gorymdeithio moliannus oedd ynglŷn â hwynt yng nghynteddau’r Deml. 5. Digwydd deirgwaith yn y Salm. Er mewn bro estron y mae’n hyderus na edy Duw Israel ef. Bydd hyfrydwch gwasanaeth y Deml eto yn eiddo iddo. 6. Y mae’r alltudion yn trigo ar y pryd yng ngolwg Hermon. Yma defnyddir y ffurf luosog, yr Hermoniaid, sef y tri chrib oedd i’r mynydd, ac efallai mai enw ar un o’r cribau oedd bryn Misar. Saif yn agos i Gesarea Philipi yng ngogledd-ddwyrain Palesteina. 7. Yn yr ardal hon tardda Iorddonen, a thros y creigiau tyr ei dyfroedd yn llifeiriant gwynion ac yn fân raeadrau. Personolir y rhaeadrau hyn gan y bardd a darlunnir hwynt yn galw y naill ar y llall. Eiddo Duw yw’r dyfroedd hyn, a chysur yw i’r Salmydd mai Duw hefyd sydd yn eistedd ar y llifeiriant a dyr dros ei ben yntau. 8—10. Nid oes angen esbonio yr adnodau hyn ymaith. Oni ŵyr pob enaid dwys a ddelir gan drallodion am brofiad sy’n gymysg o ffydd ac amheuaeth? Efallai fod yr awdur wedi gweld rhai o’i gyd-alltudion yn cael eu dirdynnu a malurio eu hesgyrn, a chystal ganddo hynny â gorfod gwrando ar eu hedliw parhaus. 43:3. Goleuni a Gwirionedd Duw megis dau angel sydd i’w dywys yn ôl o’i gaethiwed i Sion ac i gynteddau y Deml yn Ieriwsalem. 1. Meddyliwch am brofiad yr alltud hwn, a chymerwch ef â phrofiadau alltudion ym marddoniaeth Cymru, Cawrdaf a Chynan, ac yn arbennig Goronwy Owen yn ei Gywydd ‘Hiraeth am Fôn’. 2. A oedd awdur y Salm hon yn credu bod “Duw yn llond pob lle, presennol ym mhob man”? Ynteu credu yr oedd mai Ieriwsalem a’r Deml oedd mangre arbennig ei bresenoldeb, ac yno yn unig y gellid edrych arno? 3. Beth yw ein hateb ni a’n hymddygiad ni pan edliwir inni gan elynion fod ‘yr Eglwys wedi methu’ a ‘bod dydd Cristnogaeth ar ben’?