Aethant hwythau allan, a phregethasant ym mhobman, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair trwy’r arwyddion a ddilynai.
Ond y cwbl a orchmynnwyd iddynt a fynegasant ar fyr eiriau i Bedr a’r rhai oedd gydag ef. Ac wedi hynny yr Iesu ei hunan a anfonodd trwyddynt hwy, o ddwyrain hyd orllewin, santaidd ac anllygradwy genadwri’r dragwyddol iechydwriaeth.